Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth Druidston Haven

Map
Location Pin

Traeth Druidston Haven

Mae Druidston yn draeth tywod hir wedi’i amgylchynu â chlogwyni serth ar dair ochr.

Mae ffurfiannau rhyfeddol i’r clogwyni yma; bwâu naturiol ac ogofâu i’r gogledd o’r prif draeth ond cadwch lygad ar y môr gan ei bod yn bosibl i chi gael eich ynysu gan y llanw.

Gallwch gyrraedd y traeth ar hyd llwybr yr arfordir neu ddau lwybr troed sy’n uno â’r ffordd gul sy’n mynd o Nolton Haven i Aberllydan.

Dylech fod yn ymwybodol bod y traeth yn cael ei ddefnyddio gan ysgol farchogaeth ac y gallech ddod ar draws nifer fawr o geffylau ar y traeth neu ar y llwybr i’r gogledd.

Does dim modd parcio ar y ffordd yma o gwbl.

Dylai nofwyr fod yn ofalus gan fod ceryntau cryf oddi ar Druidston.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Does dim modd parcio ar ochr y ffordd. Mae’r meysydd parcio agosaf yn Nolton Haven neu hanner milltir i’r de yn Haroldston Chins. Cerddwch lawr i lwybr yr arfordir er mwyn gweld golygfeydd anhygoel cyn dilyn llwybr yr arfordir i’r traeth.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Gwesty Druidston sydd â’r cyfleusterau agosaf, sy’n cynnwys bar a bwyty. Mae dewis da o dai llety, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â maes carafanau a gwersylla gerllaw.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Druidston Haven, Haverfordwest
51.81135344523801, -5.1032745865377365
swordfish.mattress.painter

Hygyrchedd

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw