Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth Dale

Map
Location Pin

Traeth Dale

Traeth cerrig mân yn bennaf gyda pheth tywod, sy’n lle delfrydol ar gyfer chwaraeon dŵr. Mae mewn bae cysgodol a llydan ac yn fan ardderchog i berffeithio’ch sgiliau hwylfyrddio, hwylio, neu unrhyw gamp arall ar y dŵr a dweud y gwir.

Mae cyfyngiadau ar gŵn ym mhen gogleddol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae’n berthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae ychydig o leoedd ar hyd ochr y traeth neu mae maes parcio talu ac arddangos gyda 100 o leoedd y tu ôl i’r traeth.

Cyfleusterau

Toiledau yn cynnwys toiled anabl. Llithrfa. Pontŵn.

Cyfleusterau ar y lan

Caffi/bwyty a thafarn. Mae canolfan gweithgareddau sy’n darparu hyfforddiant mewn chwaraeon dŵr ac mae modd llogi cychod. Mae dewis bychan o leoedd gwely a brecwast a llety hunanarlwyo.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Dale Beach, Dale, Haverfordwest
51.708005, -5.169323
glitter.puzzles.imperious

Hygyrchedd

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw