
Mae’r hen dramffordd yn mynd ar hyd pen uchaf y traeth, gyda thwneli i’r dwyrain a’r gorllewin i Wiseman’s Bridge a Saundersfoot.
Sylwch fod y cyfyngiadau ar Coppet Hall wedi’u newid. Mae’r ardal i’r gogledd o Draeth Coppet Hall (o’r grisiau canolog ar draws blaen Canolfan y Traeth) yn parhau i fod yn rhydd o gŵn rhwng 10am a 5pm rhwng 1 Mai a 30 Medi.
Mae hyn yn arwydd y gall pawb fwynhau’r traeth.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Maes parcio preifat yn ymyl y traeth.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae gan fwyty Coast, sydd wedi’i adeiladu ar fin pen dwyreiniol y traeth, olygfeydd anhygoel ar draws Bae Caerfyrddin. Mae ciosg hefyd yn gwerthu hufen iâ a diodydd poeth. Toiledau.
Cerddwch trwy’r hen dwneli tramffordd i Saundersfoot gyda’i holl gyfleusterau a llety.
Cadair olwyn traeth ar gael i'w llogi, archebwch ymlaen llaw ar-lein yma.
Dolen glyw