Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Bae Ceibwr

Map
Location Pin

Bae Ceibwr

Cilfach fechan o greigiau a thywod wedi’i hamgylchunu gan glogwyni uchel. Mae hwn yn draeth gwirioneddol wyllt ac anghysbell. Nid yw’n lle da i nofio ond mae’n dda ar gyfer gwylio llamhidyddion.

Rhyw filltir i’r de mae Pwll y Wrach sy’n gasgliad o greigiau geirwon.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Parcio ar ochr ffordd gul.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf yn Nhrefdraeth. Mae cyfleusterau pentref mawr yn Nhrefdraeth, gan gynnwys orielau, llogi beiciau, Clwb Golff a Chanolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol (ar agor drwy’r flwyddyn ond amseroedd agor cyfyngedig yn y Gaeaf). Mae dewis da o westai, gwely a brecwast, llety ymwelwyr, meysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Ceibwr Bay Cardigan
52.0767827841907, -4.758803317133214
deployed.conquests.friction

Hygyrchedd

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw