Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Bae Caerfai

Map
Location Pin

Bae Caerfai

Ar lanw uchel mae hwn yn fae bychan creigiog, wedi’i wasgu rhwng dau glogwyn uchel filltir i’r de o Dyddewi. Mae’r creigiau o gwmpas Caerfai’n gymysgedd amryliw o lwyd, gwyrdd a phinc llachar.

Ar lanw isel, daw traeth tywodlyd, gyda digon o byllau glan môr, i’r golwg. Byddwch yn ofalus gan fod ceryntau cryf yn y môr oddi ar Gaerfai.

Mae mynediad i’r traeth i lawr llwybr serth a throellog.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae lle i tua 50 o geir barcio ar ben uchaf y traeth ac mae’n rhad ac am ddim!

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf yn ninas Tyddewi. Mae Tyddewi’n ddinas boblogaidd; cafodd statws dinas yn sgil Eglwys Gadeiriol fendigedig Tyddewi a adeiladwyd ar lannau Afon Alun yn y 12fed ganrif. Mae Canolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol (ar agor trwy’r flwyddyn), nifer o gaffis, tafardai a bwytai, nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, parciau carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo yn Nhyddewi a’r ardal.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Caerfai Beach St Davids Haverfordwest
51.872678, -5.253782
securing.coaching.firework

Hygyrchedd

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw