Nid yw’r ffordd i’r traeth o’r maes parcio uwchben y traeth ar y pen deheuol yn addas i goetsis na chadeiriau olwyn gan bod nifer o risiau serth i lawr o’r clogwyn.
Mae’n llawer gwell cyrraedd y traeth o’r pen gogleddol drwy’r llynnoedd, lle mae llwybr pren at y tywod. Cofiwch bod ceryntau cryf yn y môr yn Ne Aberllydan.
Crwydrwch y cerrig mawr a’r ‘ynys’ ar yr ochr orllewinol er mwyn darganfod ogofâu a nentydd yn llifo allan o’r clogwyni. Pan fydd y llanw’r isel mae ambell i ogof fechan yn y clogwyni isel, troellog ar yr ochr ddwyreiniol.
Mae’r nant lân sy’n dod o’r llynnoedd yn llifo ar hyd yr ochr yma ac yn berffaith i blant bach chwarae ynddi. Mae craig dda i neidio oddi arni hefyd pan fydd y llanw’n uchel.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae digon o le i barcio uchben y traeth ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu ger yr eglwys ym mhentref Bosherston i’r rhai sydd â chadeiriau olwyn neu goetsis. Mae angen cerdded milltir i’r traeth o’r fan hyn ond byddwch yn cerdded trwy’r llynnoedd lili hardd. Profiad gwerth chweil!
Cyfleusterau
Toiledau yn y maes parcio uwchben y traeth. Fan hufen iâ.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae caffi, tafarn a siop ym mhentref Bosherston.
Nid yw mynediad o'r maes parcio uwchben y traeth yn ei ben deheuol yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ganllaw o lwybrau a argymhellir i ganiatáu mynediad i dramper gyda chymorth, cadeiriau olwyn â chymorth a chadeiriau gwthio.