
Mae’r clogwyni ar y ddwy ochr yn rhoi cysgod i rai o’r baeau. Ar lanw isel mae’n bosibl cerdded o gwmpas y trwyn ar yr ochr ddeheuol i fae o’r enw traeth Settlands. Gallwch gerdded o gwmpas y trwyn nesaf i Aberbach. Cofiwch gadw llygad ar y llanw!
Mae cyfyngiadau ar gŵn ar draean gogleddol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn eich helpu i weld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol. Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Dau faes parcio gyda hyd at 200 o leoedd. Mae’r maes parcio bach ar lan y môr yn llenwi’n gyflym iawn.
Cyfleusterau
Toiledau, llithrfa, ac mae gwylwyr y glannau ar gael rhwng diwedd mis Mehefin a dechrau mis Medi.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae gan Aberllydan siop a swyddfa bost, 3 tafarn, bwyty, ystafelloedd te a choffi, caffi, tecawe a siopau sy’n gwerthu a llogi dillad ac offer chwaraeon dŵr. Mae dewis da o lety ymwelwyr, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â meysydd carafanio a gwersylla
Dolen glyw