Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Traeth Amroth

Map
Location Pin

Traeth Amroth

Mae Amroth yn draeth tywodlyd, gwastad, hanner milltir o hyd. Pan fydd y llanw’n isel mae darn enfawr o dywod sy’n ardderchog ar gyfer pob math o gemau traeth.

Mae pyllau glan môr yn y pen gorllewinol a grwynau ym mhen uchaf y traeth.

Mae cyfyngiadau ar gŵn yng nghanol a phen gorllewinol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth i’ch helpu i weld i ba rannau o’r traeth mae hyn yn berthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Maes parcio ym mhentref Amroth (dilynwch yr arwyddion) a pharcio ar hyd wal y môr.

Cyfleusterau

Gwyliwr y glannau o ddechrau mis Gorffennaf hyd at ddiwedd mis Medi. Llithrfa.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Toiledau, siop, siop sglodion/hufen iâ/ caffi a nifer o dafarnau sy’n gwerthu bwyd.

Sut i Ddod o Hyd i Ni

Amroth, Narberth
51.732853, -4.654966
canines.baguette.dispenser

Hygyrchedd

Llwybr mynediad o'r maes parcio i'r siopau a'r traeth ar hyd pont â ramp dros nant. Ramp concrit wrth y toiledau: 1:8 i 1:7 am 45 metr, gwaelod yn aml wedi'i orchuddio â cherrig mân.

Cyfleusterau sydd ar gael:
Dolen glyw