
Yr un lechen sy’n rhoi’r lliw glas dwfn a disglair i ddŵr ‘Y Shinc’; harbwr bychan hardd – chwarel wedi’i boddi – i’r gogledd o’r traeth.
Cofiwch bod ceryntau cryf ar draeth Abereiddi. Mae’n fan poblogaidd ar gyfer arfordiro oherwydd gallwch ddringo ar hyd y clogwyni ar lefel y môr gan neidio i’r môr mewn mannau na allwch fynd heibio iddynt. Awgrymir eich bod yn mwynhau arfordiro fel rhan o grŵp wedi ei drefnu (chwiliwch am ddarparwyr arfordiro yma). Mae rhes o adfeilion bythynnod i chi grwydro o’u cwmpas ar hyd ymyl yr hen chwarel.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael ei eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Mae mynediad i’r anabl yn Abereiddi gyda llwybr hygyrch i gadeiriau olwyn yn arwain at y Lagŵn Glas ond dim mynediad i’r traeth cerrig mân.
Dolen glyw