Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Gwylio Adar Sir Benfro yn yr Hydref a'r Gaeaf

Gwylio Adar Sir Benfro yn yr Hydref a'r Gaeaf

Beth am fynd i Wylio Adar yn Sir Benfro yn yr Hydref a'r Gaeaf

Published

27 August 2024

Hyd yn oed yn y misoedd oerach, mae Sir Benfro yn baradwys i adarwyr. Mae'r sir yn fan delfrydol i adar mudol gael seibiant ac i'r rhai sy'n cael eu chwythu oddi ar eu taith gan dywydd stormus. Hefyd, mae cynhesrwydd Llif y Gwlff yn ei gwneud y sir yn fan diogel i adar sy'n gaeafu.

Cofnodi’r Adar a Welwch
Cofiwch, drwy anfon gwybodaeth am yr adar a welwyd gennych at y cofnodwr adar sirol lleol rydych chi'n eu helpu i gadw golwg ar fywyd adar amrywiol Sir Benfro.

Ble i Fynd

Pen Strwmbwl
Mae'r ardal hon yn lle gwych i fod o fis Medi ymlaen, gyda digonedd o adar môr prin i’w gweld yma. Fodd bynnag, nid oes llawer o gysgod a dim llawer o ran cyfleusterau cyhoeddus yma, felly gwnewch yn siŵr eich bod mewn dillad cynnes a gyda fflasg o ddiod poeth.

Cadwch lygad am:
Yr Wylan Sabine
Pedryn cynffon-fforchog
Aderyn drycin mawr, aderyn drycin Cory ac aderyn drycin du
Gwylan goesddu
Gwylog
Llurs
Pâl

Mere Marloes
Gallwch barcio ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a dewis o guddfannau gyda golygfeydd i’r gogledd neu i’r de i weld hwyaid ar y dŵr agored a gwyddau’n pori yn y caeau. Nid oes unrhyw gyfleusterau cyhoeddus yn y lle hwn, felly dewch â'r hyn sydd ei angen arnoch i fwynhau'r diwrnod ac yn bendant gwisgwch esgidiau cadarn.

Cadwch lygad am:
Gwyddau
Cidyll Bach
Hebog Tramor
Brân Goesgoch

Llyn Llys-y-frân
Mae gan y ganolfan ymwelwyr hon le parcio, digonedd o gyfleusterau a hyd yn oed caffi â golygfeydd ar draws y llyn. Ewch ar hyd y lan ddwyreiniol i weld hwyaid, y gwyach a gwylanod ar y dŵr ac yn clwydo yn yr ardaloedd cyfagos.

Cadwch lygad am:
Y Gwyach fach
Gwyach fawr gopog
Gwyach gyddfddu
Gwyach Slafonaidd
Gwylan benddu
Gwylan adenog lwydlas
Gwylan Gwlad yr Iâ

Coetir Canaston
Yn union ar ôl mynd heibio Melin Blackpool, fe welwch faes parcio y Comisiwn Coedwigaeth. O'r olygfan, gallwch weld rhywogaethau coetir a rhydwyr yr aber. Heb unrhyw gyfleusterau cyhoeddus, mae hwn yn fan arall lle mae dillad diddos ac esgidiau addas yn hanfodol.

Cadwch lygad am:
Y Drudwy
Cnocell fraith fwyaf
Cnocell fraith leiaf
Telor y cnau
Titw tomos las
Titwmawr
Titwpenddu
Titw’r wern
Hwyaden yr eithin
Pibydd coesgoch
Corhwyaden
Y Gylfinir
Bronwen y dŵr
Glas y dorlan
YCrëyr glas

Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru, Cilgerran
Yn ffinio ag aber Afon Teifi â choetir a chynefin helaeth o welyau cyrs, mae'r warchodfa natur hon yn cynnwys cuddfannau hygyrch i weld y rhydyddion a’r adar gwylltion sy’n ymweld â’r ganolfan.

Cadwch lygad am:
Cnocell fraith leiaf
Telor y coed
Tingoch
Gwybedog brith
Corhedydd Richard
Cracen fraith
Telor y dŵr
Gwalch
Barcud coch

Y Gann, ger Dale
Gerllaw pentref arfordirol Dale lle mae maes parcio bach, rhad ac am ddim, mae hwn yn fan ardderchog i adar y dŵr aeafu.

Cadwch lygad am:
Pibydd y Mawn
Y Gylfinir
Y Coegylfinir
Pibydd Coeswyrdd
Rhostog Cynffonfain
Chwiwell
Corhwyaden
Hwyaden yr Eithin
Gwyach gyddfgoch
Gwyach Slafonaidd
Elyrch Bewick ac Elyrch y Gogledd
Pibyddion Llwy
Afoced
Chwiwell America
Môr-wennol ddu

Strumble Head