Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Archwilio Ynys Sgomer yn Sir Benfro

Archwilio Ynys Sgomer yn Sir Benfro

Treulio’r Nos ar Ynys Sgomer

Published

27 August 2024

Y fwyaf o ynysoedd Sir Benfro ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol, mae Ynys Sgomer yn baradwys byd-enwog i fywyd gwyllt.

Y daith cwch

Bydd taith 15 munud ar y cwch Dale Princess yn mynd â chi ar draws y dŵr i’r ynys ac yn rhoi’r cyfle cyntaf i chi weld morlo neu balod. Byddwch ar y cwch cyntaf i'r ynys y bore hwnnw, a bydd trigolion y noson gynt yn sefyll ar y lan, yn barod i fynd â'ch bagiau. Y bore wedyn, eich tro chi fydd hi i dalu’r gymwynas yn ôl os fedrwch chi.

Wrth i chi gyrraedd, byddwch yn cael eich croesawu gan swyddog ymwelwyr fydd yn dweud popeth wrthych sydd angen i chi ei wybod am eich taith. Mae hyn yn cynnwys eich cyflwyno i dîm wardeniaid a gwirfoddolwyr yr ynys, dangos i chi ble fyddwch yn aros y nos a rhoi awgrymiadau a chyngor i chi ar sut i wneud y gorau o archwilio'r ynys, yn ogystal â'r lleoedd gorau i weld y bywyd gwyllt lleol.

Yr Hen Ffermdy

Mae’r Hen Ffermdy yn cynnig llety hunanarlwyo gwerinol ar ffurf hostel. Ar gael rhwng mis Ebrill a mis Hydref, mae'r opsiwn hwn yn hynod gyfforddus ac yn cynnig popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer aros y nos, gan gynnwys cegin gymunedol â digon o offer cegin, lolfa glyd gyda llosgydd coed a dŵr tap twym. Sylwer bod gobenyddion a duvets yn yr ystafelloedd gwely, ond mae angen i chi ddod â'ch dillad gwely eich hun.

Morloi/ Drycin Manaw

Cyn gynted ag y byddwch yn glanio, fe welwch nythfa o forloi llwyd yr ynys ar y traeth; yna, wrth i chi gerdded tua'r gogledd, edrychwch i fyny i'r awyr i weld a allwch weld y gylfinir, gwylanod neu hyd yn oed dylluan glustiog. Yng Ngharreg Garland, edrychwch am y llamidyddion yn y tonnau, ac ar y pen gorllewinol, dyma’r lle i weld yr hebog a’r frân goesgoch. Pen Sgomer yw’r pwynt gorllewinol sy’n llecyn gwych arall i weld llamidyddion a morloi cyn mynd ymlaen i’r Wig i weld llond lle o balod.

Wedi iddi nosi, cewch eich annog i fynd allan i weld yr adar drycin Manaw enwog. Mae 50% a mwy o boblogaeth y byd wedi hedfan yr holl ffordd o’r Ariannin i fagu eu cywion ar Ynys Sgomer, lle maent yn ffynnu.

Hefyd bob nos mae pawb yn ymgynnull yn y swyddfa i gofnodi'r adar, y llamidyddion, a'r morloi y mae pawb wedi'u gweld y diwrnod hwnnw cyn ymgartrefu am y nos yn yr Hen Ffermdy.

Cofiwch bacio’n ysgafn ond cynnwys yr hanfodion fel y gallwch fwynhau eich arhosiad, beth bynnag fo'r tywydd. Dewch ag esgidiau cadarn, dillad dal dŵr a chynnes, ysbienddrych a fflachlamp, potel ddŵr a beth bynnag sydd ei angen arnoch ar gyfer noson yn yr Hen Ffermdy.

Am y newyddion diweddaraf o'r ynys, edrychwch ar Flog Ynys Sgomer.

I archebu eich noson ar yr ynys, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.