Ynglŷn â Llys y Frân Lake
Croesawu’r Gwanwyn yn Llys-y-frân – Ffair Crefftau’r Gwanwyn dydd Sadwrn 12, a dydd Sul 13 Mawrth
Mae’r gwanwyn yn gwawrio ac mae Llys-y-frân yn dathlu trwy gynnal ei ail ffair grefftau yn y ganolfan ymwelwyr ers iddi agor ei drysau yng Ngorffennaf 2021.
Yn dilyn llwyddiant y Ffair Nadolig, cynhelir Ffair y Gwanwyn dros ddau ddiwrnod er mwyn caniatáu i ragor o ymwelwyr fwynhau crwydro’r stondinau niferus yn y ganolfan ymwelwyr. Bydd yna amrywiaeth fendigedig o gynnyrch ar gael, gydag ugain o stondinau bob dydd yn gwerthu pethau i’r cartref, tlysau, jam a siytni, addurniadau gwydr, planhigion, sebon, canhwyllau a dillad.
Un stondin newydd i’r ffair grefftau yw stondin Katie Eynon o Arberth a fydd yn gwerthu teganau ac anrhegion o waith crosio, â phob un wedi eu creu â llaw o batrwm Katie ei hun ac â chymeriad unigryw. Bydd stondin gwaith crosio ‘What Katie Did’ yn gwerthu bwnis bach hyfryd (rhai Pasg hefyd!), tedi bêrs ac amrywiaeth o binnau enamel newydd.
Bydd yna amrywiaeth o sebon hufennog, moethus ar gael gan Clarby Soaps o Hwlffordd, a bydd Tŷ Newydd Alpacas yn dod â’u chynnyrch gwlân Alpaca Cymreig; meddalwch sydd heb ei ail mewn ffibrau naturiol! Bydd sanau, hetiau, sgarffiau a dillad babis o wlân Alpaca ar gael.
Ac ar ôl crwydro’r stondinau, beth am fwynhau paned a chacen braf yng Nghaffi Glan y Llyn? Mae’r Siocled Poeth Bounty Hylifol yn ddewis poblogaidd, ynghyd â’r ysgytlaeth mefus gyda hufen ffres a malws melys. Neu arhoswch am ginio a mwynhau cawl cig oen cartref â bara a menyn, neu frechdan bysedd pysgod heb ei ail gyda sglodion a saws tartar.
Am restr o stondinwyr Ffair y Gwanwyn, ynghyd â rhagor o fanylion am eu cynnyrch, ewch i: https://llys-y-fran.co.uk/cy/events/ffair-y-gwanwyn/
Mae Canolfan Ymwelwyr Llys-y-frân ar agor bob dydd 10am – 4pm dros y gaeaf a than 5pm o 8 Ebrill ymlaen. Bwciwch eich Antur Dŵr Cymru, ar dir sych neu ar y dŵr a chewch amser wrth eich bodd. Bwciwch ar lein: https://llys-y-fran.co.uk/cy/pethau-iw-gwneud/
Gwybodaeth Ychwanegol
Open from ---Select--- to ---Select---.
Dydd Sadwrn 12, a dydd Sul 13 Mawrth
10am – 4pm
WELSH:: Price Info:
Free entry
Cyfleusterau:
- Baby Changing
- Cafe
- Childrens meals
- Disabled Access
- Disabled Toilet
- Free Admission
- Groups welcome
- Highchair
- Open All Year
- Parking (charge)
- Shop
- Toilets