Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Ymweld â Chwm Gwaun yn Sir Benfro

Ymweld â Chwm Gwaun yn Sir Benfro

Ymweld â Chwm Gwaun Hynafol

Published

28 August 2024

Yn fan dirgel bron, mae Cwm Gwaun diarffordd a choediog yng ngogledd Sir Benfro yn cynnig llawer o atyniadau hanesyddol. Mae'n hawdd cyrraedd y cwm ar hyd ffordd neu lwybr troed, ac mae'n frith o chwedlau, mythau a thraddodiadau.

Mae’r dyffryn yn rhedeg ar hyd 10 milltir o’r Cwm Abergwaun tuag at Fynyddoedd y Preseli, lle mae Afon Gwaun yn tarddu i'r dwyrain o Bont-faen. Ffurfiwyd y cwm serth hwn gan ddirgryniad daearegol epig, a’i gerfio ar ffurf V gan ruthr dyfroedd y rhewlifoedd yn toddi, ac mae daearegwyr yn ei ystyried yn un o'r sianeli dŵr tawdd pwysicaf ym Mhrydain o'r Oes Iâ ddiwethaf. Mae'r cwm yn ddelfryd wledig pur, yn drwch o ffawydd, cyll, ynn a derw, ac mae’r gwylwyr adar yn sôn am weld y gwybedog brith, telor y coed, y tingoch, titw'r wern, delor y cnau a'r dringwr bach.

Dyffryn Arms

Ychydig uwchlaw Cwm Gwaun a hanner ffordd rhwng Llanychaer a’r Garn Fawr, mae Parc y Meirw lle mae pedwar maen hynafol, ac o bosibl bod y rhes hon o feini wedi'i hadeiladu i goffau cludo’r cerrig gleision i Gôr y Cewri. Mae un o'r cerrig mwyaf lliwgar yn tarddu o Gerrig trawiadol Meibion Arthur wrth droed Foel Cwmcerwyn, mynydd uchaf Mynyddoedd y Preseli. Yn ôl y Mabinogion, y straeon rhyddiaith Cymraeg cynharaf, mae’r baedd anferth hudolus, y Twrch Trwyth, yn lladd pedwar o wŷr glew y Brenin Arthur mewn brwydr yn y fan hon.

Yn Llanychaer, mae safle clostir amddiffynnol o’r Oes Haearn y tu ôl i dafarn y pentref, y Bridgend Inn. Ym mynwent gron eglwys Brynach Sant ym Mhont-faen, mae crair arall o'r gorffennol pell gyda dwy golofn â chroesau ag arysgrif Lladin, y credir eu bod yn dyddio o'r 6ed i'r 9fed ganrif.

Unwaith y flwyddyn, mae pentrefwyr Pont-faen a Llanychaer yn dal i nodi'r hen galendr Julian, oedd yn weithredol cyn 1752, drwy ddathlu Dydd Calan neu’r Hen Galan ar Ionawr 13eg. Mae llawer o blant yn mynd ar daith o gwmpas y pentrefi ac yn canu hen ganeuon gyda’r trigolion lleol, a cheisio rhodd draddodiadol neu galennig (anrheg Blwyddyn Newydd).

Mae'r Dyffryn Arms ym Mhont-faen, neu Bessie's fel y'i gelwir yn lleol, wedi bod yn yr un teulu ers 1840. Mae'r dafarn hon o bwysigrwydd hanesyddol mawr, ac mae'n debygol y bydd rhywun yn arllwys peint o jwg a'i roi i chi drwy dwll yn y wal.

Mewn hanes diweddar, bomiodd yr Awyrlu y twnnel yng Nghastell Forlan ym 1943 ar reilffordd segur i odre'r Preseli mewn prawf llwyddiannus ar gyfer bom bownsio Barnes Wallis fel y'i hail-grëwyd yn y ffilm The Dam Busters yn 1955.

Mae Waldo Williams, un o feirdd Cymraeg gorau’r 20fed ganrif, yn cael ei goffau gan garreg goffa 10 troedfedd nepell o gylch cerrig Gors Fawr gan iddo ymgartrefu ym Mynachlog-ddu ym Mynyddoedd y Preseli.

Gors Fawr