Ynglŷn â Requiem
SPAN yn Partneru gyda Chôr Un Byd Oasis ar gyfer Prosiect Requiem a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae SPAN Arts yn llawn cyffro i bartneru unwaith eto gyda Chôr Un Byd Oasis i gyflwyno Requiem, prosiect a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda pherfformiadau corawl a dawns ar y traeth dan gyfarwyddyd Ffion Campbell-Davies. Mae’r cydweithrediad hwn yn parhau â’r berthynas lwyddiannus rhwng SPAN a’r Côr, yn dilyn perfformiad twymgalon y llynedd o ‘Togetherland’ yn Ninbych-y-pysgod a ‘Pot of Good Vibes’ yng Nghlunderwen.
Mae Requiem yn brosiect ymchwil a datblygu sy’n amlygu’r offerynnwr taro Tsieineaidd ac arbrofol byd-enwog Beibei Wang. Mae’r prosiect yn cyfuno canu, offerynnau taro byw a dawns i ddathlu undod ar adegau o golled. Wedi’i chyfarwyddo gan Ffion Campbell-Davies, nod Requiem yw cefnogi datblygiad aelodau’r côr a’u gosod yn gyfartal â phobl greadigol eraill yn y diwydiant, gan ail-lunio sut mae’r sector a’r gymuned yn cofleidio ac yn dathlu pobl o gefndiroedd lloches a ffoaduriaid.
Bydd y fenter hon yn rhoi llwyfan i ehangu talentau ac arbenigedd aelodau’r Côr gan adlewyrchu cyfraniadau pobl greadigol ac artistiaid eraill yn y diwydiant. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i artistiaid, partneriaid a chyfranogwyr ddatblygu sgiliau a phrofi dull unigryw’r côr, wedi’i fireinio dros y naw mlynedd diwethaf. Fe’ch gwahoddir i ddathlu’r prosiect rhyfeddol hwn drwy ymuno â ni ar draeth Llanrhath ar gyfer perfformiadau corawl a dawns gan y Côr.
Ymunwch â ni ar gyfer y perfformiad ar draeth Llanrhath, Sir Benfro SA67 8NG, ddydd Sadwrn, Medi 7fed, o 3:00-3:40 PM a 4:00-4:40 PM. Mae tocynnau AM DDIM, ond gofynnwn eich bod yn archebu eich tocynnau ymlaen llaw.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â info@span-arts.org.uk neu ewch i span-arts.org.uk.
Manylion Digwyddiad
Dyddiad: Medi 7fed
Amser: 3:00-3:40pm a 4:0-4:40pm
Lleoliad: Traeth Llanrhath (Amroth), Sir Benfro. SA67 8NG.
Pris: AM DDIM ond rhaid archebu ymlaen llaw.
Archebu: span-arts.org.uk
Gwasanaethir Llanrhath yn dda gan drafnidiaeth gyhoeddus ac mae parcio glan môr ar gael. Mae’r perfformiadau yn digwydd ar y traeth ei hun, ystyriwch fynediad/hygyrchedd wrth archebu. Cysylltwch ag info@spanarts.org.uk i drafod eich anghenion hygyrchedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Open from September to September.
Dyddiad: Medi 7fed
Amser: 3:00-3:40pm a 4:0-4:40pm
WELSH:: Price Info:
Pris: AM DDIM ond rhaid archebu ymlaen llaw.
Archebu: span-arts.org.uk
Hygyrchedd
Mae’r perfformiadau yn digwydd ar y traeth ei hun, ystyriwch fynediad/hygyrchedd wrth archebu. Cysylltwch ag info@spanarts.org.uk i drafod eich anghenion hygyrchedd.