Ynglŷn â Dydd Gŵyl y Nadolig
Cewch fwynhau seiniau persain Côr Meibion Hendy-gwyn wrth iddynt ymuno â’i gilydd ar gyfer canu carolau a charolau Plygain— traddodiad Cymreig ganrifoedd oed lle mae cantorion yn perfformio carolau bendigedig yn ddigyfeiliant. Gyda harmonïau cywrain, mae’r emynau hyn yn ennyn ymdeimlad o ryfeddod a chysylltiad.
Yn ychwanegu at yr awyrgylch bydd presenoldeb cyfareddol Cynyrchiadau La La La Productions, perfformwyr stryd o Gaerdydd, a fydd yn swyno gwesteion gyda pherfformiadau bywiog ar hyd y dydd. Yn eu gwisgoedd Nadoligaidd, byddant yn dod ag ysbryd y tymor yn fyw.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys y Fari Lwyd draddodiadol, ffigwr ceffyl addurnedig sy’n ganolog i arferion gwaseilio Cymreig. Wedi’i chrefftio gan yr artist Samara van Rijswijk, bydd pyped Mari Lwyd yn crwydro yn ein plith, ei llygaid pefriog a’i hysbryd bywiog yn lledaenu hwyl a drygioni gwerinol.
I’r rhai sy’n mwynhau gweithgareddau ymarferol, mae’r diwrnod yn cynnig amrywiaeth o weithdai creadigol. Ymunwch â Hannah Darby i grefftio torchau naturiol gan ddefnyddio deiliach bytholwyrdd persawrus ac aeron gaeaf, neu cewch ymuno ag Evangeline Morris a Samara van Rijswijk wrth iddynt arwain gweithdy i greu addurniadau Nadolig wedi’u hargraffu â llaw. Bydd hefyd addurno dynion sinsir a helfa drysor i anturiaethwyr ifanc, gan ychwanegu mwy fyth o hwyl yr Ŵyl . Bydd sesiynau chwedleua yn cael eu hymblethu i’r diwrnod, gan rannu straeon sy’n cyfleu hud llên gwerin a thraddodiadau Nadoligaidd Cymru.
Nid oes yr un Nadolig Cymreig yn gyflawn heb fwyd o gynnyrch cartref sylweddol. Cynheswch gyda phaned o seidr poeth, a phrofwch ddanteithion traddodiadol fel Bara Brith a chace planc wedi’u pobi’n ffres. Gyda danteithion Nadoligaidd eraill a diodydd poeth ar gael, mae rhywbeth at ddant pawb.
Gadewch i ysbryd Dydd Gŵyl Nadolig eich swyno wrth i ni ddathlu cyfoeth diwylliant Cymru, llawenydd tymor yr Wyl, a hyfrydwch y traddodiadau a rennir. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddigwyddiad lle mae’r gorffennol a’r presennol yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth gwirioneddol hudolus.
END.
Am ragor o fanylion cysylltwch â
Manylion digwyddiad
Dyddiad: Dydd Sadwrn Rhagfyr 21ain
Amser: 10:30yb – 7.00 yh
Cost: Talwch yr hyn y gallwch o £3 i fyny.
Lleoliadau: Celfyddydau SPAN, Gwaun y Dref, Arberth, SA67 7AG
Gwybodaeth: span-arts.org.uk
Cysylltwch â info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Open from December to December.
Dyddiad: Dydd Sadwrn Rhagfyr 21ain
Amser: 10:30yb – 7.00 yh
WELSH:: Price Info:
Cost: Talwch yr hyn y gallwch o £3 i fyny.
Hygyrchedd
Cysylltwch â info@spanarts.org i drafod eich anghenion hygyrchedd.