Mae noddi Gwobrau Croeso mawreddog a gyflwynir gan Croeso Sir Benfro yn gyfle i fusnesau lleol a chenedlaethol gefnogi ein diwydiant twristiaeth.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw cynnig pecynnau nawdd sy’n dod â manteision lu i fusnesau ar eu buddsoddiad, ac rydym yn hapus i drafod ffyrdd y gallwch fod yn noddwr.
Pecyn Noddi Categori £1,650 a TAW
Bydd noddwyr pob categori yn derbyn ystod o fuddion gan gynnwys:
Dau docyn am ddim i'r noson cyflwyno gwobrau.
Cyfle i gyflwyno gwobr y categori i'r enillydd.
Lluniau o'r noddwr gydag enillydd y wobr.
Eich logo yn ymddangos ar dudalennau gwefan y gwobrau.
Eich logo yn ymddangos mewn cyhoeddusrwydd cyn ac ar ôl y noson, ac yn llyfryn y noson wobrwyo.
Enw'r cwmni noddi wedi'i ysgythru ar wobr y categori.
Enw'r cwmni noddi wedi'i argraffu ar dystysgrifau enillydd y categori a'r ail yn y categori.
Proffil y noddwr ar dudalennau gwefan y gwobrau am o leiaf 12 mis.
Os dymunwch drafod cyfleoedd i noddi, llenwch y ffurflen ar-lein
yma neu cysylltwch â ni ar: 01646 622228, e-bost admin@visitpembrokeshire.com admin@visitpembrokeshire.com
Noder os gwelwch yn dda: Nid yw bod yn noddwr yn eithrio eich busnes/sefydliad rhag ymgeisio mewn categori gwahanol i'r un yr ydych yn ei noddi.
Rhaid cadarnhau nawdd categori penodol neu brif nawdd yn ysgrifenedig ynghyd â thaliad llawn cyn y gallwn gadarnhau nawdd y categori.