Ar ben gogleddol y traeth, mae ardal dywodlyd fechan a ddaw i’r golwg ar lanw isel. Tu ôl i’r traeth mae maes carafanau o eiddo Haven Holidays, Bourne Leisure Ltd.
Ceir cyfyngiadau ar gŵn ym mhen dwyreiniol y traeth rhwng Mai 1af a Medi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!