Mae llwybr sy’n addas ar gyfer coetsis/cadeiriau olwyn yn arwain at y Point, sy’n fan da i weld golygfeydd. Gallwch ymlwybro i lawr y llwybr serth at draeth cerrig mân arall sef y ‘Sheep Wash’, a ddefnyddiwyd gan ffermwr lleol 50 mlynedd yn ôl i olchi defaid cyn eu cneifio. Bellach mae’n fae bach poblogaidd, cysgodol a diogel i nofio ynddo.
Wrth i’r llanw fynd allan, mae’n bosibl i chi gerdded o gwmpas y trwyn i fae tywodlyd llydan o’r enw’r Settlands. Ar lanw isel, gallwch gerdded yr holl ffordd i Aberllydan ar hyd y traeth.
Mae digon o byllau glan môr i’w harchwilio. Chwiliwch am sêr môr ond peidiwch ag aflonyddu arnynt. Mae’r nant yn lledu wrth iddi lifo lawr y traeth gan dueddu i’w gwneud yn rhy wlyb i chwarae ac adeiladu cestyll tywod.
Mae’r pentref yn gartref i orsaf bad achub yr RNLI ac yma mae siopau’r ardal.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Nifer cyfyngedig o leoedd talu ac arddangos yn y pentref.
Cyfleusterau
Toiledau, Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae siop, caffi, nifer o dafarnau a dewis da o leoedd gwely a brecwast, tai llety a hunanarlwyo yn ogystal â meysydd carafanau a gwersylla yn Aber Bach ac Aberllydan.
Llithrfa goncrit: 1:12 i 1:8 am 33 metr, y mwyaf serth ar y brig.