OTA – 5 Rheswm pam y dylech ddod!

5 Rheswm pam y dylech ddod!

Ymunwch â ni ar gyfer y Digwyddiad Lansio Agored i Bawb ddydd Mawrth 12 Mawrth 2024 rhwng 8:30 AM a 4:30 PM yng Ngwesty Lord Nelson!

  1. I ddysgu mwy am ‘Agored i Bawb’ ac i ymuno â ni i wneud Sir Benfro yn ddewis cyntaf i drigolion ac ymwelwyr sy’n wynebu rhwystrau yng nghyd-destun teithio a thwristiaeth.
  1. Rydych chi’n fusnes neu’n sefydliad sydd eisiau rhannu arferion da, rhwydweithio, gwneud newidiadau a datblygu.
  1. I gymryd rhan mewn ystod o sesiynau blasu hyfforddiant a dweud wrthym am y cyfleoedd hyfforddiant y gallwn eu creu ar gyfer eich tîm! Am ddim!
  1. Rydych chi’n ymwybodol o heriau cymryd rhan ac yn awyddus i weithio gyda’r tîm i adnabod newidiadau cadarnhaol ac ymarferol.
  1. Rydych chi’n rhannu ein gweledigaeth i greu cyrchfan fwy croesawgar a chynhwysol i bawb!

Wedi’i gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ymwelwch â Sir Benfro, mae’r digwyddiad hwn yn ceisio sicrhau mai Sir Benfro yw’r lleoliad mwyaf delfrydol ar gyfer twristiaeth a theithio cynhwysol.

Dewiswch rhwng tocyn bore, prynhawn neu ddiwrnod llawn.

Gall deiliaid tocyn bore gael dechrau da i’w bore gyda brecwast, cyfle i gwrdd â’r cyfarwyddwyr, mwynhau cyflwyniadau, arddangosfeydd a sesiynau rhyngweithio ysbrydoledig!

Caiff deiliaid tocyn prynhawn fwynhau cinio, gweld y ‘lansiad’ swyddogol, cymryd rhan mewn trafodaethau panel ac edrych ar gyfleoedd i arddangos!

Ond pam dewis? Gyda’ch tocyn diwrnod llawn, gallwch gael y cyfan!

Nodwch y dyddiad ar eich calendr! Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae angen cadw lle. Cadwch eich lle nawr – https://buytickets.at/visitpembrokeshire/1149351

Ffoniwch ni ar 07398 535283 gydag ymholiadau.

Dewch i ni sicrhau mai Sir Benfro yw’r gyrchfan fwyaf croesawgar a chynhwysol gyda’n gilydd!

Welwn ni chi yno!