Awgrymiadau gwych ar gyfer ymweld â Sir Benfro yn eich cerbyd gwersylla neu gartref modur
yn eich cerbyd gwersylla neu gartref modur
Nid ydym yn sylweddoli cymaint yr ydym yn colli’r awyr agored nes ein bod wedi bod yn gaeth am fisoedd lawer, felly mae’n anhygoel gallu archwilio Sir Benfro o’r diwedd, a chroesawu ymwelwyr yn ôl.
Rydym yn byw mewn rhan arbennig o’r byd. Mae’n arbennig am ei bod mor brydferth a glân, ac am ei bod yn cael ei gwarchod. Rydym yn gweithio’n galed iawn i’w chadw fel hyn, yn y gobaith y gall pawb ei mwynhau mewn modd cyfrifol.
Yn ddiweddar, nid yw hynny wedi bod yn digwydd.
Mae yna leiafrif sy’n rhoi enw drwg i ddefnyddwyr cartrefi modur a cherbydau gwersylla, gan droi ein Parc Cenedlaethol yn faes gwersylla budr, afreolus. Meddyliwch am sbwriel yn cael ei daflu i bobman, ein harfordir hardd yn cael ei ddefnyddio fel toiled, a dŵr gwastraff yn cael ei wagio mewn meysydd parcio. Mae ein cymunedau’n talu’r pris uchaf am yr ychydig ymwelwyr sy’n cymryd llawer ac yn rhoi fawr ddim yn ôl.
Os ydych yn cynllunio i ymweld â Sir Benfro, cynlluniwch ymlaen llaw. Gadewch ddim mwy na’ch ôl troed yn etifeddiaeth, a gwnewch eich taith yn un gofiadwy – a hynny am yr holl resymau cywir.
Ymwelwch a Sir Benfro. Yn ddiogel.
Dyma ein hawgrymiadau gwych ar gyfer ymweld yn eich cerbyd gwersylla neu gartref modur, a sicrhau eich bod chi, a’n cymunedau, yn cael y budd gorau o’ch ymweliad.
- Gwnewch eich ymweliad yn un swyddogol.
Archebwch lain – mwynhewch holl fwynderau maes gwersylla pa un a ydych yn chwilio am barc gwyliau neu encil gwledig. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i berchnogion meysydd gwersylla, a phob busnes twristiaeth, a byddent wrth eu bodd yn eich cael i aros.
- Cynlluniwch eich diwrnod.
Archebwch le ymlaen llaw. Gall hyn fynd yn groes i’r ethos o fynd i le y mynnoch yn eich cerbyd gwersylla, ond mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn diweddu’r diwrnod o archwilio ar safle swyddogol.
Peidiwch â gwersylla dros nos mewn cilfannau na meysydd parcio. Rydym yn deall bod iddynt, yn amlach na pheidio, y golygfeydd gorau, ond nid oes caniatâd i chi wneud hyn, ac mae timau gorfodi yn patrolio, felly rydych mewn risg o gael dirwy.
Mae yna ddigonedd o feysydd gwersylla ledled Sir Benfro, ac mae gan lawer ohonynt olygfeydd o’r môr.
- Lle y dylid stopio.
Mae yna gerbydau gwersylla a chartrefi modur o bob lliw a llun ar gael, ac os na fyddwch yn parcio mewn cilfachau swyddogol, byddwch yn achosi problemau.
Mae NIFER MAWR o’r tractorau ar ein ffyrdd, sydd â pheiriannau llydan y tu ôl iddynt ar brydiau, heb sôn am y gwasanaethau brys a’r RNLI sydd ar eu ffordd i alwad 999, yn gorfod ceisio gwasgu heibio i gerbydau sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon. Gallai ceir sydd wedi’u parcio’n anghyfreithlon gostio bywydau.
Byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill ar y ffyrdd.
- Sbwriel a gwastraff.
Ewch â’ch holl sbwriel gyda chi, a’i ailgylchu neu gael gwared arno yn y ffordd briodol.
Os oes angen gwagio eich cyfleusterau toiled, peidiwch â defnyddio’r gwrychoedd/perthi – ydy, mae hyn yn digwydd. Arhoswch ar safle swyddogol, lle cewch yr holl gyfleusterau i gael gwared ar eich gwastraff mewn modd diogel, heb niweidio’r amgylchedd.
Peidiwch â thaflu eich dŵr golchi llestri: mae’n llawn hylif golchi llestri, a all niweidio ein hamgylchedd glân.
- Toiledau cyhoeddus.
Mae ein holl doiledau cyhoeddus yn agored, ac yn cael eu glanhau i ganllawiau COVID datblygedig newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Defnyddiwch nhw.
Rydym i gyd yn cael ein dal mewn angen ar brydiau, ond ceisiwch gynllunio ymlaen llaw – nid yw’n braf gweld pobl yn mynd i’r toiled ar ochr y ffordd, a gallech gael dirwy os cewch eich dal.
- Lonydd cul a gwrychoedd/perthi uchel.
Mae ffyrdd trac sengl yn gyffredin yn Sir Benfro, ac felly rhaid i chi fod yn barod i stopio ac efallai facio’n ôl ar gyfer traffig sy’n dod i’ch cwrdd.
Byddwch yn amyneddgar – mae’r cyfan yn rhan o fywyd hamddenol Sir Benfro. Bydd chwifio eich llaw i ddweud diolch hefyd yn dderbyniol iawn.
Nawr mae’n bryd antur, archwilio Sir Benfro yn ddiogel ac yn gyfrifol. Mwynhewch.
Parchwch ein cefn gwlad – gadewch ôl eich traed yn unig.
Parchwch ein cymunedau – gweithredwch mewn modd moesegol a chefnogi ein cymunedau.
Parchwch ein hamgylchedd – peidiwch â thaflu sbwriel na budreddi.