Rhowch bleidlais i Sir Benfro
Ysgrifennwyd gan Croeso Sir Benfro
Mae’r pleidleisio wedi cau
Maen nhw’n dweud bod popeth yn dod fesul tri.
Wel, yn 2018 mae arfordir Sir Benfro eisoes wedi ennill gwobr gan ddarllenwyr hyfryd cylchgrawn Countryfile am y Lle Gwyliau Gorau a’r penwythnos hwn, enwodd y Sunday Times 3 thraeth yn Sir Benfro ymhlith eu traethau gorau ym Mhrydain a Thraeth Porth Mawr fel y gorau yng Nghymru.
A nawr rydym yn aros am y drydedd wobr, a dyma ble mae angen eich cymorth chi…
Mae Sir Benfro a Dinbych-y-pysgod wedi’u henwebu yng Ngwobrau Teithio Prydain 2018 (ac fe fyddem ni wir yn hoffi ennill o wobr hon!)
Mae Sir Benfro wedi cael ei henwebu yn y categori Sir neu Ranbarth Gwyliau Gorau’r DU ac mae Dinbych-y-pysgod, a enillodd y wobr efydd yn 2013 ac arian yn 2014 a 2016 wedi ei henwebu fel Tref Glan Môr Orau’r DU.
Cliciwch i BLEIDLEISIO dros Sir Benfro a Dinbych-y-pysgod
Pam fod y gwobrau hyn yn bwysig? Rhain yw ‘Oscars’ y byd teithio gan mai chi, ein hymwelwyr hyfryd, sy’n pleidleisio. Byddem yn falch dros ben pe byddech yn PLEIDLEISIO, dim ond munud mae’n gymryd, ac os allech chi annog eich ffrindiau a’ch teulu i bleidleisio hefyd byddem yn eich ❤ fwy fyth.
Gallech hefyd ennill gwyliau.
Diolch am helpu Sir Benfro a Dinbych-y-pysgod i fod yn enillwyr!