Plediwch i drigolion ac ymwelwyr

fod yn barchus ac yn ystyriol.

Gofynnir i bobl sy’n bwriadu mwynhau Sir Benfro’r penwythnos hwn barchu ac ystyried y cymunedau lleol yr ymwelant â nhw.

Daw’r alwad cyn yr hyn sy’n debygol o fod yn benwythnos cynnes arall – y cyntaf ers i dafarnau, bariau, caffis a thai bwyta allu ailagor ar gyfer gwasanaeth awyr agored.

Y penwythnos diwethaf hysbyswyd Cyngor Sir Penfro o amryw bryderon.

Roedd hyn yn cynnwys cartrefi modur a cherbydau gwersylla’n aros dros nos ym meysydd parcio’r Awdurdod.

Caiff y rhai sy’n defnyddio cartrefi modur a cherbydau gwersylla eu hatgoffa nad oes hawl aros dros nos ym meysydd parcio’r Awdurdod a bydd y Cyngor yn gorfodi hyn yn y dyddiau ac wythnosau nesaf.

Os ydych yn bwriadu aros yn Sir Benfro mewn cartref modur neu gerbyd gwersylla, peidiwch ag archebu neu deithio heb sicrhau eich bod eich cerbyd yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer ‘llety hunangynhwysol’ yn ôl rheoliadau COVID-19.

Hysbyswyd gwersylla gwyllt hefyd gyda phroblemau gwersyllwyr ac ymwelwyr yn mynd i’r toiled yn yr awyr agored, gan faeddu’r amgylchedd lleol a chreu perygl i iechyd y cyhoedd.

Nid oes unrhyw esgus dros hyn. Mae toiledau cyhoeddus Cyngor Sir Penfro wedi ailagor ar ôl y cyfyngiadau.

Gwaharddwyd gwersylla gwyllt heb ganiatâd y tirfeddiannwr.

Byddwch yn ymwybodol fod llety hollol hunangynhwysol wedi ailagor bellach ar ôl y cyfyngiadau a gofynnir i ymwelwyr sy’n bwriadu aros dros nos archebu gyda darparwyr priodol.

Caiff safleoedd gwersylla gyda chyfleusterau ar y cyd ailagor o ddydd Sadwrn, 25ain Gorffennaf ymlaen.

Hysbyswyd problemau parhaol gyda sŵn a thaflu sbwriel i’r Cyngor hefyd.

Gyda dim ond gwasanaeth awyr agored neu fwyd i fynd i’w gael ar hyn o bryd mae’n anochel y bydd rhywfaint o sŵn ychwanegol ond byddai’r Cyngor yn gofyn i chi ystyried y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn y cylch a lleihau sŵn gymaint ag y gallwch.

Mae timau’r Cyngor yn gwagio biniau’n rheolaidd ac mae gorfodaeth amgylcheddol wedi ailddechrau.

Cofiwch fod taflu sbwriel yn drosedd. Fe all unrhyw un a welir yn taflu sbwriel dderbyn rhybudd cosb benodedig o £150.

Er mwyn gweithredu’n rhagweithiol ar unrhyw faterion all godi wrth lacio’r cyfyngiadau, mae Cyngor Sir Penfro, yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner fel Heddlu Dyfed-Powys, wedi sefydlu Ystafell Weithrediadau yn Neuadd y Sir.

Bydd swyddogion yn yr Ystafell Weithrediadau rhwng 8am a 10pm i sicrhau ymateb amlasiantaethol i unrhyw faterion sy’n codi yn ystod yr wythnosau a ddaw.

Meddai’r Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Mae Sir Benfro’n adnabyddus am ei harddwch a chynhesrwydd ei chroeso ac rydym wrth ein boddau bod tymor yr haf ar fynd gyda mwy a mwy o fusnesau ar agor neu’n bwriadu agor yn yr wythnosau a ddaw.

“Fodd bynnag, mae cyfrifoldeb ar drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd i ymddwyn mewn ffordd nad yw’n effeithio’n negyddol ar ein cymunedau a’r amgylchedd naturiol sy’n ein bendithio.

“Nid yw’r Cyngor eisiau bod yn sychdduwiol. Rydym eisiau i bobl fwynhau Sir Benfro, yn enwedig ar ôl anhawster y cyfyngiadau, ond cofiwch fwynhau Sir Benfro mewn ffordd nad yw’n achosi problemau.

“Mewn gwirionedd, ni ddylwn orfod dweud hyn ond cofiwch roi eich sbwriel yn y biniau neu fynd ag ef adref gyda chi.

“Os ydych yn mwynhau llymaid yn yr awyr agored, peidiwch â mynd dros ben llestri ac ystyried cadw pellter cymdeithasol. Mae ein toiledau cyhoeddus ar agor, defnyddiwch nhw’n hytrach na mynd yn gyhoeddus.

“Os dymunwch aros dros nos, ac mae croeso mawr i chi wneud hynny, cofiwch archebu gyda’n darparwyr llety rhagorol, fydd yn hynod falch o’ch derbyn, yn unol â’r rheoliadau COVID-19 cyfredol.

“Mae Sir Benfro’n sir hardd a, thrwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ei chadw felly.”