Penwythnos mawr yn Sir Benfro 2018
Biggest Weekend BBC Music
Gwnewch Biggest Weekend BBC Music yn Abertawe’n fwy fyth gyda phenwythnos enfawr yn Sir Benfro
Does yr un teimlad gwell na mwynhau gig ardderchog, ac mae’r Big Weekend yn siŵr o roi hynny i chi. Ond wedi i’r gerddoriaeth dawelu, beth allai fod well nac anelu am y gorllewin a mynd am drip tua Sir Benfro i ymlacio?
Gwnewch y gorau o benwythnos Gŵyl y Banc, rydych chi’n haeddu seibiant bach ar ôl yr holl ddawnsio!
O fewn awr a chwarter yn y car i Barc Singleton gallwch fod yn ymlacio ar y traeth, yn cael barbeciw, yn mwynhau’r machlud, diod yn eich llaw ac yn rhannu holl straeon y penwythnos.
Mae digonedd o ddewis o ran llety, boed yn faes pebyll er mwyn parhau â’r parti, neu’n ryw lety mwy anarferol: iwrt, tipi, tŷ hobbit, geoddôm neu gwt bugail.
Gallwch aros mewn fflat ger y môr, mewn bwthyn anghysbell clyd, mewn fferm, neu gastell hyd yn oed – chi piau’r dewis.
Ac os bydd gennych rywfaint o egni ar ôl, beth am gael gwers syrffio neu grwydro’r arfordir anhygoel mewn caiac? Wedi’r cyfan, dyma Flwyddyn y Môr.
Beth am fynd am dro trwy’n tirwedd anhygoel, bydd digonedd i lenwi’ch tudalen instagram, neu fentro allan gyda’r hwyr i syllu ar y sêr.
Beth bynnag eich dewis, bydd yn benwythnos a hanner. Ond yn gyntaf, rhaid i chi gael tocyn, pob lwc!