Mae Gardd Goedwig Colby yn dathlu statws cyfeillgar gwenyn
The National Trust, Sir Benfro
Bydd Gardd Goedwig Colby yn Sir Benfro yn cynnal llond cwch o weithgareddau yr haf hwn wrth i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddathlu ei statws Caru Gwenyn, sy’n ardystiad cenedlaethol am ddiogelu peillwyr.
Y fenter hon gan Lywodraeth Cymru yw’r cynllun cenedlaethol cydlynol cyntaf sydd â’r nod o helpu i wyrdroi’r dirywiad mewn poblogaethau o bryfed peillio. Gardd Goedwig Colby yw’r ail o safleoedd yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru i gyflawni’r ardystiad, yn dilyn Castell y Waun yn 2018.
Mae’r ardystiad yn cydnabod bod yr eiddo’n ymrwymedig i dyfu blodau sy’n addas i beillwyr drwy gydol y flwyddyn a chreu cartref i bryfed peillio, gan osgoi cemegion sy’n niweidio peillwyr a chynnwys y gymuned hefyd.
Dywedodd rheolwr Gardd Goedwig Colby, Steve Whitehead: “Rydyn ni wrth ein bodd o fod wedi cyflawni statws Caru Gwenyn am roi natur yn gyntaf wrth ein gwaith.
“Mae gwenyn, ynghyd â phryfed fel pili-palod a gwybed hofran, yn rhan hollbwysig o’n bywyd gwyllt brodorol. Drwy beillio, maent yn helpu i gynnal byd natur ynghyd ag amrywiaeth yn ein dolydd a’n gerddi, felly mae’n hanfodol ein bod yn eu diogelu.
“Mae ein gwaith ar draws yr ardd a’r ystâd ehangach wedi cynnwys adfer dolydd blodau gwyllt, creu stribedi blodau gwyllt, ymylon llydan i gaeau a chynefinoedd nythu prysg-goetir, plannu rhywogaethau brodorol a pherllannau sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, a diogelu ardaloedd sydd eisoes yn bodoli, gan gynnwys ardaloedd o laswellt hir a llystyfiant garw, boncyffion gwag a cheudyllau er mwyn i beillwyr allu eu defnyddio.”
Gwahoddir ymwelwyr i ddarganfod pŵer y peillwyr yr haf hwn wrth i’r ardd gynnal rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y thema Gwenyn Gwych. Bydd gennym awgrymiadau i chi eu defnyddio gartref hefyd. O weithdai gwenyn gwellt, diwrnodau cychod gwenyn byw a theithiau cerdded blodau gwyllt i lwybr y peillwyr a chynnyrch mêl yn yr ystafell de, mae yna haid o weithgareddau i’w mwynhau.
Mae Gwenyn Gwych ymlaen o ddydd Sadwrn 25 Mai i ddydd Sul 1 Medi; edrychwch ar y wefan am ragor o fanylion ac am ddyddiadau ac amseroedd gweithgareddau unigol.