Mae Gwasanaeth Bysiau Fflecsi bellach
yn Sir Benfro
Mae Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen i ehangu gwasanaethau bws fflecsi i ran arall o Gymru.
Mewn partneriaeth â PVT (Trafnidiaeth Wirfoddol Sir Benfro) a Chyngor Sir Penfro, mae’r gwasanaeth newydd wedi cael ei lansio bellach yng ngogledd-orllewin y sir.
Dyma wasanaeth bws ymatebol i’r galw sydd wedi’i drefnu’n rhannol ac sydd â chyrchfan cychwyn a gorffen sefydlog, ond sydd hefyd yn hyblyg ac sy’n gallu addasu ei lwybr i godi a gollwng teithwyr unrhyw le yn y parth hyblyg hwnnw.
Yn hytrach na gorfodi teithwyr i aros am fws mewn arhosfan, mae hi bellach yn bosibl iddynt archebu taith o flaen llaw ar ap newydd, ar wefan y gwasanaeth fflecsi neu trwy ffonio 0300 234 0300.
Hysbysir teithwyr ble i ddal y bws ac ar ba amser y bydd y bws yn cyrraedd – bydd y man codi ger lleoliad y teithiwr.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: “Dyma wasanaeth sy’n ein galluogi ni i drefnu ein system drafnidiaeth mewn ffordd wahanol, gan roi mwy o reolaeth i deithwyr o ran y ffordd maen nhw’n teithio.
“Mae’r arwyddion cynnar yn awgrymu bod y math hwn o wasanaeth yn boblogaidd. Byddwn yn parhau i ddysgu o brofiadau mewn rhannau eraill o Gymru er mwyn creu opsiynau effeithlon a chyfleus fel rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus integredig.”
Trwy’r system archebu a reolir, mae’r gwasanaeth fflecsi hefyd yn sicrhau bod pob teithiwr yn sicr o gael sedd ac felly’n cynorthwyo gyda mesurau pellhau corfforol. Mae diogelwch cwsmeriaid a chydweithwyr yn flaenoriaeth i Trafnidiaeth Cymru ac mae’r gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau diogelwch ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru: “Dyma brawf cyffrous o’r gwasanaeth fflecsi wrth i ni barhau gyda’n hymdrechion i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r sefyllfa bresennol o ran pandemig Cofid-19 wedi cael effaith uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth i ni symud ymlaen, diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth.
“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn rhoi cyfle i ni edrych ar ffyrdd newydd o weithredu trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod cyfnod digyffelyb.
“Bellach, rydym yn cynnal cynlluniau peilot ledled Cymru ac mae’n dda gweld hynny’n ehangu i mewn i Sir Benfro.”
Ychwanegodd Margaret Vickery, Cadeirydd Trafnidiaeth Wirfoddol Sir Benfro (PVT): “Mae PVT yn falch o weithio gyda Trafnidiaeth Cymru ar wasanaeth bws fflecsi newydd yn ardal penrhyn Tyddewi. Mae’r gwasanaeth yn darparu gyrwyr cyfeillgar ochr yn ochr â seddi cyfforddus a golygfeydd godidog o gefn gwlad, wrth i deithwyr deithio mewn bysiau newydd sbon. Mae’n ddyddiau cynnar i’r gwasanaeth hwn o hyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ei ddatblygu er mwyn diwallu anghenion lleol.”
Croesawodd y Cynghorydd Sir Phil Baker, Aelod y Cabinet dros Seilwaith, y gwasanaeth: “Dyma fenter gyffrous iawn ac rwy’n hapus ein bod wedi llwyddo i sicrhau cymorth ariannol er mwyn gweithredu’r cynllun peilot hwn yn Sir Benfro.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu defnyddio gwybodaeth a phrofiad y Sector Trafnidiaeth Gymunedol yn Sir Benfro i yrru’r gwasanaeth hwn yn ei flaen. Mae yna nifer o gymunedau nad ydyn nhw erioed wedi cael mynediad at wasanaeth bws cyhoeddus ond nawr fe fyddan nhw.”
I gael mwy o wybodaeth, gan gynnwys manylion y gwasanaeth a sut i wneud archeb, ewch i: https://www.fflecsi.wales/locations/pembrokeshire/