Lletygarwch i ailagor yn

Sir Benfro ddydd Llun

Bydd pobl yn Sir Benfro yn gallu ymweld â thafarnau, caffis a bwytai unwaith eto o ddydd Llun (9 Tachwedd).

Bydd sefydliadau lletygarwch yn ailagor o dan gyfres newydd o gyfyngiadau ar ôl y cyfnod atal dros dro gan Lywodraeth Cymru.

Dyma’r cyfyngiadau newydd:

  • Bydd uchafswm o bedwar unigolyn o unrhyw aelwyd yn gallu cymdeithasu wrth fwrdd. Ni fydd plant 11 oed ac iau yn cael eu cynnwys yn y nifer hwn.
  • Bydd teuluoedd mwy o faint o’r un aelwyd yn cael eistedd wrth yr un bwrdd.
  • Bydd rhaid archebu bwrdd o flaen llaw, ond efallai y bydd modd cael bwrdd ar hap os caiff hyn ei reoli wrth y fynedfa.
  • Bydd rhaid i bawb roi manylion cyswllt.
  • Bydd yr un rheolau’n berthnasol y tu mewn a’r tu allan i safleoedd.
  • Bydd y cyrffyw 10pm ar werthu alcohol yn parhau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu’r cyfyngiadau ymhen pythefnos ac maen nhw’n dweud nad ydynt yn ‘annog’ pobl i fynd i sefydliadau lletygarwch.

“Gofynnwn i bobl ymweld â’r mannau hyn mewn grŵp mor fach â phosibl, ac i lawer, bydd hyn yn golygu’r bobl maen nhw’n byw gyda nhw yn unig,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford mewn datganiad yn gynharach yr wythnos hon.

“Ond rydym wedi gwrando ar bobl ifanc a phobl sengl sydd wedi dweud wrthym pa mor bwysig ydyw iddynt gyfarfod â rhai ffrindiau ac aelodau eraill o’u teuluoedd.

“Felly, bydd y rheoliadau’n caniatáu i grwpiau o hyd at bedwar unigolyn gyfarfod mewn lleoliad sy’n cael ei reoleiddio, fel bwyty, caffi neu dafarn. Ond mae hyn yn ddarostyngedig i amddiffyniadau llym a drafodwyd gyda’r sector lletygarwch, gan gynnwys archebu o flaen llaw, slotiau â chyfyngiad amser a chadarnhau manylion adnabod. Yn yr un modd â phob agwedd ar ein bywydau, bydd cynnal hanfodion hylendid da a chadw ein pellter yn hollbwysig yn y lleoliadau hyn.

“Caniatâd yw hwn, nid rhywbeth rydym yn annog pobl i’w wneud. Dyma’r newid mwyaf heriol o safbwynt iechyd y cyhoedd a bydd yn cael ei adolygu’n barhaus.

“Mae’n dibynnu ar weithredoedd y sector a phob un ohonom i ddefnyddio’r caniatâd hwn yn gyfrifol ac yn gynnil.”

Dywedodd y Cynghorydd Sir Phil Baker, Aelod y Cabinet dros Seilwaith, Trwyddedu a Digwyddiadau Mawr: “Mae hwn yn gyfle i ni gyfarfod â phobl eraill mewn amgylchedd diogel, wedi’i reoli.

“Rydym yn gwybod bod darparwyr lletygarwch yn Sir Benfro eisoes wedi gweithio’n galed iawn i ddarparu amgylcheddau diogel yn dilyn y cyfyngiadau symud gwreiddiol, ac y byddant yn addasu i’r cyfyngiadau newydd hefyd i sicrhau bod eu safleoedd mor ddiogel â phosibl. Diolchwn iddynt am hynny ac mae angen i ni eu cefnogi wrth i’r Nadolig nesáu.

“Hoffwn adleisio neges y Prif Weinidog, sef bod pob un ohonom yn gyfrifol am gynnal hanfodion hylendid da, gwisgo gorchudd wyneb pan fydd yn ofynnol a chadw ein pellter pan fyddwn yn ymweld â sefydliadau lleol. Dim ond hyn a hyn y gallan nhw ei wneud – mae gennym ni gyfrifoldeb i’n hunain, i’n teuluoedd ac i’n ffrindiau hefyd.”

  • I gael rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau lletygarwch newydd, ewch i:

https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau