Gŵyl Lleisiau Digyfeiliant Arberth

Span Arts

Daw Gŵyl Lleisiau Digyfeiliant Arberth (NAVF) yn ôl gyda dathliad dyrchafol o’r llais bob dwy flynedd dros benwythnos 15/16 Chwefror 2020 yn Neuadd y Frenhines, Arberth.

Mae’r Ŵyl yn gyfle gwych i bobl ddod at ei gilydd i rannu penwythnos llawen o ganu. Eleni, mae gennym gyngerdd nos Sadwrn gydag amrywiaeth cyfoethog o berfformiadau, gweithdai canu i agor a chau’r ŵyl ac ychwanegiad arbennig iawn o Wledd Ganu, Dathliad o Gymuned a Chân ac ymgais arbennig iawn i dorri record.

Mae Cyngerdd Sadwrn NAVF, 15 Chwefror, yn dod â pherfformiadau hudolus Semi Toned, côr meibion gwobrwyol Caerwysg (canu harmoni clos), Ye Vagabonds (canu gwerin Gwyddelig) a Durga Ramakrishnan (canu Indiaidd).

Yn y rhaglen weithdai, 15/16 Chwefror, mae canu Gwyddelig / gwerin, Indiaidd, Corsaidd, Georgaidd, Cymreig a Dolennu ochr yn ochr â chlinig Canu er Lles Molara.

Span arts
C-D Kirsty Martin, Caroline Bithell

Mae Gwledd Ganu, 15 Chwefror, yn gyfle gwych i borthi’r enaid yn ogystal â’r stumog. Bydd perfformwyr a chyfranogwyr yn canu am eu swper o fwydlen o ganeuon a bwyd o bob cwr o’r byd. Hefyd bydd Heart and Parcel, elusen o Fanceinion, yn rhannu hanes eu meithrin cymuned ysbrydoledig sy’n dod â menywod ymfudol at ei gilydd trwy dwmplenni.

Dathliad o Gymuned a Chân ac Ymgais i Dorri Record Côr Rhwng Cenedlaethau, 16 Chwefror bydd Gŵyl Lleisiau Digyfeiliant Arberth yn dod i ben gyda pherfformiad o’r galon o ganeuon ysbrydoledig a rhyngwladol Span Arts – Côr Pawb a Caring Choirs. Yn dilyn hyn fe fydd ymgais hynod i dorri record dod â phobl 0-99 oed at ei gilydd i ganu’n unsain a chodi arian at elusennau ieuenctid a dementia lleol. Beth bynnag yw eich oed neu brofiad o ganu, mae gwahoddiad i chi ddod heibio ac ymuno â’r côr unwaith ac am byth hwn rhwng cenedlaethau a chydganu’n unsain i ganeuon tanbaid a dyrchafol i orffen yr Ŵyl mewn steil.

Galwch brynu tocyn gŵyl neu gael gwybod mwy ar-lein neu drwy swyddfa docynnau Span Arts ar Town Moor neu drwy ffonio 01834 869323. Gallwch brynu tocynnau’r cyngerdd a gweithdai ar wahân hefyd.

Yn ogystal â cherddoriaeth wych, mae digon i’w ddarganfod pan dreuliwch 48 awr yn Arberth.