Gŵyl Lenyddol Llangwm 2018

Ysgrifennwyd gan Ŵyl Lenyddol Llangwm

Gŵyl Lenyddol Llangwm yn croesawu merched ar daith

I ddathlu camlwyddiant y bleidlais i ferched yn y DU, mae’r pentref yn Sir Benfro (a fu’n enwog am ei bysgotwragedd ewn yn y gorffennol) yn paratoi i groesawu rhai o fenywod mwyaf arloesol y DU.  

Mae pentref hudolus Llangwm, ger afon Cleddau, yn cynnal ei ŵyl lenyddol flynyddol fis Awst nesaf (10fed-12fed) gydag awduron lleol a chenedlaethol, storïwyr, gweithdai celf a gweithdai ysgrifennu taith, fiesta Sbaenaidd a sylw i deithiau go iawn ac ysbrydol merched. 

Y prif siaradwr fydd Joanna Penberthy, Esgob Tŷ Ddewi, esgob benwyaidd cyntaf yr Eglwys yng Nghymru. Bydd yr Esgob Joanna yn sôn am ei thaith at Dduw, Girl Power a’i hangerdd dros ffiseg cwantwm. 

Yn siarad hefyd fydd Dervla Murphy, un o’r awduron taith gorau yn y byd heddiw. Mae Dervla, sy’n enwog am ei thaith feicio o Ddulyn i India, yn gwneud taith fyrrach y tro hwn: dros Fôr Iwerddon o Lismore. Bydd sgwrs Dervla yn canolbwyntio ar ei llyfrau diweddaraf am Israel a Phalestina.  Mae’r Dwyrain Canol yn bwnc llosg i awduron yn gyffredinol eleni a bydd Llangwm hefyd yn croesawu’r arbenigwraig ar Syria Diana Darke â’i llyfr diweddaraf ‘The Merchant of Syria’. 

Bydd golygydd Wanderlust, Phoebe Smith, yr awdur taith a’r fersiwn fenywaidd o Bear Grylls, yn egluro pam fod  bach wir yn well (yn achos dringo mynyddoedd) ac yn datgelu cyfrinachau ysgrifennu’r erthygl daith berffaith. ‘Dewch i Dwrio!’ yw gwaedd brenhines gwymon Sir Benfro, Julia Horton-Powdrill, a fydd yn edrych ar y bwyd sydd ar lannau Afon Cleddau. 

Ar gyfer y rhai sy’n hoff o glywed straeon, bydd Shonaleigh’n dod â’r traddodiad Drut’syla o adrodd straeon i Langwm.  Rydym yn disgwyl i’w stori Iddewig am y ‘Golem,sy’n cysgu rhwng y dail…hyd nes ein bod ei angen, roi gwefr ac ias ar yr un pryd.  

Efallai y byddwch am ymuno â’r trigolion lleol a gwisgo’ch ponsio a’ch espadrilles ar gyfer fiesta Sbaenaidd Llangwm wrth i’r Cottage Inn droi’n La Casita. Am un noson yn unig bydd Jackie Palit o Sir Benfro yn dod â Sbaen i Langwm. 

Gan y bydd gymaint o ferched arbennig yma, oes yna le i ddynion? Oes wrth gwrs! Ond mae honno’n stori wahanol. 

Gall mynychwyr yr ŵyl hefyd fwynhau bwyd lleol blasus gan y Cottage Inn, a’r Capel Wesleaidd, drwy gydol yr ŵyl. Bydd y Caffle Brewery ar gael i sicrhau bod yr awen yn llifo.  

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gŵyl Lenyddol Llangwm  neu ffoniwch 07970 812050. 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi