Gwobrau cylchgrawn BBC Countryfile 2018

Visit Pembrokeshire

Bellach yn eu seithfed blwyddyn, mae Gwobrau Cylchgrawn BBC Countryfile 2018 yn ddathliad o gefn gwlad Prydain a’i phobl.  

Eleni, gwahoddodd Countryfile eu darllenwyr i awgrymu’r llefydd gorau yng nghefn gwlad. 

Yna, daeth panel arbenigol Countryfile ynghyd i astudio’r cynigion i gyd a chreu rhestr fer o 5 ar gyfer pob adran. 

Mae’r rhestrau terfynol wedi eu cyhoeddi ac rydym yn falch iawn o ddweud fod Arfordir Penfro ar y rhestr fer ar gyfer Lleoliad Gwyliau Gorau 2018.  

Yr hyn sy’n gwneud yr enwebiad yma’n arbennig yw mai chi’r darllenwyr sy’n gyfrifol am y dewis, felly DIOLCH O GALON i chi. Fydden ni ddim wedi cael y fraint yma oni bai amdanoch chi. 

Wrth dynnu’r rhestr fer, meddai un o’r beirniaid, Miranda Krestoviknoff: “Bywyd gwyllt, bywyd gwyllt, bywyd gwyllt. Yn ogystal ag arfordir bendigedig, adar anhygoel, traethau hardd sy’n dawelach na’r rhai yng Nghernyw – mae’n rhyfeddol drwyddi draw.” 

Os ydych chi’n cytuno â Miranda, pleidleisiwch dros Arfordir Penfro. Byddai’n wych pe byddem yn ennill y wobr yma, ac am ffordd arbennig i Gymru ddathlu cychwyn ‘Blwyddyn y Môr!’ 

Sut mae pleidleisio: (Gallwch bleidleisio rhwng y 19eg o Ionawr a’r 5ed o Fawrth 2018) 

Y ffordd symlaf o bleidleisio yw gwneud hynny ar y we trwy fynd i: Countryfile Awards 2018

neu 

gallwch lenwi’r ffurflen sydd yn rhifyn Chwefror o gylchgrawn BBC Countryfile.  

Fe fydden ni hefyd yn gwerthfawrogi tair pleidlais arall gennych chi un i Eryri fel Parc Cenedlaethol y Flwyddyn, un i Draeth Niwbwrch yn Ynys Môn yn y categori Traeth y Flwyddyn, ac un i The Lost Words gan Robert Macfarlane & Jackie Morris sydd wedi’i enwebu yn adran Llyfr Cefn Gwlad y Flwyddyn. 

Gallai Cymru ennill y cwbl! 

Diolch am bleidleisio.