Gwobrau ar gyfer traethau Sir Benfro

Visit Pembrokeshire

Mae Sir Benfro yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Arfordir Cymru 2019.

Mae cyfanswm o 39 o draethau wedi’u cydnabod, gan ennill gwobrau’r Faner Las, Arfordir Glas, neu Wobr Glan y Môr.

Bydd un ar ddeg o draethau’n chwifio’r Faner Las eiconig, sy’n eco-label byd-enwog am ansawdd dŵr, ymwybyddiaeth o’r amgylchedd, diogelwch a gwasanaethau.

Bellach yn 31 mlwydd oed, daeth y Faner Las i Sir Benfro gyntaf yn 1990, ac ers hynny mae traethau’r Sir wedi’i derbyn dros 220 o weithiau.

Mae’r traethau canlynol oll wedi cadw eu statws Baner Las: Amroth, Niwgwl, Saundersfoot, Dale, Porth Mawr, Coppet Hall, Gogledd Dinbych-y-pysgod, De Dinbych-y-pysgod, Castell Dinbych-y-pysgod, Poppit Sands, a Lydstep.

Amroth

Y Wobr Glan Môr yw’r safon genedlaethol ar gyfer traethau gorau’r DU.

Ac er bod cryn dipyn o amrywiaeth o ran y traethau sy’n ennill Gwobrau Glan Môr, mae’r faner yn symbol o ansawdd a sicrhad y bydd ymwelwyr yn dod o hyd i damaid glan o’r arfordirol, sy’n ddeniadol ac yn cael ei reoli’n dda.

Mae Gwobrau Arfordir Glas yn dathlu ‘trysorau cudd ‘ yr arfordir, gan gydnabod ansawdd dŵr rhagorol ac amgylcheddau sydd heb eu difetha.

Mae 13 o’r 18 traeth a enillodd wobr Arfordir Glas Cymru yn Sir Benfro.

Llwyddodd wyth o draethau gyflawni’r ‘dwbl’, gan ennill Gwobr Glan y Môr yn ogystal â Gwobr Arfordir Glas. Y rhain oedd:

Abereiddi, Barafundle, Aberllydan (De), Freshwater East, Maenorbŷr, Marloes, Martins Haven, a Phenalun.

Marloes

Enillodd y traethau canlynol Wobrau Glan Môr hefyd:

Porth Llydan (Gogledd), Cwm yr Eglwys, Wdig, Aber Bach, Trefdraeth, Nolton Haven, a Wisemans Bridge

Cwm yr Eglwys

Derbyniodd bum traeth arall Wobrau Arfordir Glas hefyd: Caerfai, Druidston, Bae Priory ar Ynys Bŷr, West Angle Bay, a West Dale.