Gwasanaeth bws arfordirol cyfngedig
oherwydd COVID-19
Mae ymwelwyr ag arfordir Sir Benfro yn cael eu hysbysu bod gwasanaethau bws yn weithredol – ond ar lefelau is oherwydd problemau a achosir gan Covid-19.
Os ydych am deithio i neu ar hyd arfordir Sir Benfro ar fws, mae’n bwysig eich bod yn edrych ar wefan y Cyngor am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag amserlenni.
Ar hyn o bryd, mae rhai gwasanaethau bws yn gweithredu ar sail archebu ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod digon o le ar y bysiau ar gyfer ymbellhau cymdeithasol. Mae’r dyddiau y mae’r bysiau’n gweithredu wedi’u lleihau oherwydd nad oes digon o refeniw o docynnau i dalu am gostau gweithredu’n llawn.
Me’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau bws yn dal i weithredu amserlenni sefydlog ond oherwydd diffygion refeniw, maen nhw hefyd yn rhedeg yn llai aml o’i gymharu â’r cyfnod cyn Covid-19. Mae’r bysiau gwasanaeth na ellir eu harchebu ymlaen llaw yn debygol o fod ar adegau pan fydd gormod o deithwyr i sicrhau y glynir wrth ymbellhau cymdeithasol. Anogir cwsmeriaid i ddilyn y cyfarwyddiadau diogelwch a ddarperir mewn arosfannau bysiau ac ar y bysiau.
O ddydd Llun 27 Gorffennaf ymlaen, bydd yn orfodol i deithwyr wisgo gorchuddion wyneb. Mae hyn er mwyn sicrhau eu diogelwch, diogelwch teithwyr eraill a’r gyrwyr.
“Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd amlder llawer o wasanaethau bws yn Sir Benfro yn cael ei gynyddu o ddydd Llun 27 Gorffennaf ymlaen er mwyn helpu i fodloni’r galw cynyddol am wasanaethau,” meddai’r Cynghorydd Phil Baker, Aelod Cabinet dros Briffyrdd Cyngor Sir Penfro.
“Fodd bynnag, er bod gwasanaethau’n cael eu noddi’n rhannol, mae’n bwysig nodi bod y cwmnïau bysiau hefyd yn dibynnu ar yr incwm gan deithwyr i dalu am gostau gweithredu’r gwasanaeth.
“Felly, mae’n annhebygol y bydd lefelau gwasanaeth ac amserlenni cyn-Covid yn dychwelyd am beth amser.”
Os hoffech ddefnyddio bws i gyrchu neu deithio ar hyd arfordir Sir Benfro, byddwch yn ymwybodol o’r lefelau gwasanaeth is ac edrychwch ar wefan y Cyngor i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag amserlenni. Gweler https://www.sir-benfro.gov.uk/llwybrau-bysiau-ac-amserlenni