Dydd Sadwrn Barlys 2018

Ysgrifennwyd gan Croeso Sir Benfro

Mynd drot drot drwy’r dre

Ymunwch â’r dorf i wylio un o hen draddodiadau Aberteifi

Dydd Sadwrn Barlys 2018

  • Ble: Aberteifi
  • Pryd: Sadwrn, Ebrill 28ain  (neu Sadwrn 27ain Ebrill 2019)

Bellach gan y sioe gartref newydd yn yr ysgol uwchradd ar North Road. Bydd Sioe’r Stalwyni’n cychwyn am 12:30yp, gyda’r orymdaith ar hyd y Stryd Fawr yn cychwyn am 2:00yp.

Daw gwefr drwy’r dorf wrth glywed sŵn y pedolau’n nesáu, a’r gynulleidfa’n gwthio ac yn ymestyn er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn cael yr olygfa orau un.

Ac yn sydyn, dacw nhw, y stalwyni buddugol yn eu holl ogoniant, yn taranu tuag atoch, carnau’n clecian, cynffonau’n chwifio, a’r dorf yn rhuo… Croeso i Ddydd Sadwrn Barlys.

Credir fod traddodiad Dydd Sadwrn Barlys wedi cychwyn yn 1871, a chaiff ei gynnal ar benwythnos olaf Ebrill yn nhref Aberteifi. Mae’n ddigwyddiad gwych i’r teulu cyfan.

Dewch i ymuno â’r gymysgedd o drigolion lleol ac ymwelwyr sy’n heidio draw, does dim angen i chi wybod dim am geffylau er mwyn gwerthfawrogi’r creaduriaid hardd a mwynhau holl theatr yr orymdaith.

Yn yr oes a fu, dathliad y gymuned amaethyddol i nodi diwedd y tymor hau cnydau oedd Dydd Sadwrn Barlys. Roedd hefyd yn gyfle i hurio gweision fferm ac i berchnogion ceffylau ddangos eu cobiau Cymreig hardd a hysbysebu eu stalwyni ar gyfer bridio.

I lawer o bobl, mae’r Cobyn Cymreig yr un mor nodweddiadol o Gymru â’r genhinen, ac os nad ydych wedi gweld rhes ohonynt yn cael eu tywys, mi fyddwch chi wrth eich bodd. Ond cofiwch chi gymeradwyo’r tywyswyr hefyd – gallai rhai ohonynt fod yn gryn gystadleuaeth i Usain Bolt!

Nid cobiau’n unig sydd i’w gweld ar Sadwrn Barlys ychwaith, ond pob math o geffylau a merlod, o bob lliw a llun, o geffylau gwedd i Shetlands.

Cyn yr orymdaith, cynhelir sioe ar gaeau’r ysgol uwchradd (am y tro cyntaf eleni), ychydig allan o ganol y dref, a bydd tâl mynediad bychan. Yna, wedi i’r gwadhanol dosbarthiadau gael eu barnu, daw’r ceffylau buddugol i’r Stryd Fawr ar gyfer cyflwyno’r gwobrau o flaen neuadd y dref, gyda’r orymdaith yn cael ei harwain gan bencampwr y sioe.

Wedi i’r stalwyni gael eu tro, bydd arddangosfa o gertiau a cheffylau yn gwneud dwy daith o amgylch y dre cyn i’r sioe hen beiriannau a cheir gychwyn.

A phan fydd y tractorau wedi rhygnu mynd trwy’r dref, bydd y dorf yn gwasgaru, a’r Stryd Fawr yn dychwelyd i’w thawelwch arferol. Ond, i’r sawl a fu yno, bydd yr atgofion am Ddydd Sadwrn Barlys yn aros yn hir.

  • Awgrym bach: Gyda’r carnau a’r cymeradwyo’n dal i atseinio yn eich clustiau, ewch draw i’r Dipi Pitsa Aberteifi ger yr afon i glywed cerddoriaeth fyw a chael pitsas blasus; diwedd arbennig i ddiwrnod gwych.

Os yw’r holl sôn am Ddydd Sadwrn Barlys wedi codi blys arnoch, darllenwch ragor am farchogaeth yn Sir Benfro.

Heb lwyddo i ddod i ddathliadau 2018? Peidiwch â phoeni, bydd y Dydd Sadwrn Barlys nesaf yn cael ei gynnal yn Aberteifi ar y 27ain o Ebrill, 2019. Rhowch y dyddiad yn eich dyddiadur!