Datgelu Cysylltiadau Hynafol

Visit Pembrokeshire

Caiff teithiau tywys am ddim o gwmpas cloddfa archeolegol yn Sir Benfro eu cynnig o dan raglen treftadaeth a chelfyddydau newydd.

Prosiect wedi’i ariannu gan yr UE yw ‘Ailddarganfod Cysylltiadau Hynafol – Y Seintiau’ a arweinir gan Gyngor Sir Penfro ac sy’n datgelu straeon hanesyddol sy’n cysylltu cymunedau Celtaidd Gogledd Sir Benfro a Wexford yn Iwerddon.

Nod y fenter, sy’n cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Wexford a Visit Wexford yw ffurfio cysylltiadau rhwng y ddau ranbarth a denu twristiaid.

Mae’r gweithgaredd ‘Cysylltiadau Hynafol’ cyntaf yn digwydd ym mis Medi, pan ailagorir gwaith cloddio Capel Sant Padrig sy’n edrych allan ar draeth Whitesands ger Tyddewi.

Capel Sant Padrig ar ymyl Traeth Porthmawr

Ychydig a wyddys am y Capel, a’r unig gyfeiriad hanesyddol ato yw’r hyn sydd yn ‘Description of Pembrokeshire’ gan George Owen sy’n dyddio o 1603:

‘Capel Patrick (is) full west of St Davids and placed as near his country, namely Ireland, as it could well be. It is now wholly decayed.’

Mae erydu arfordirol wedi bod yn bryder ar y safle ers dechrau’r 20fed Ganrif, gydag adroddiadau rheolaidd am gladdedigaethau yn dod i’r wyneb yn y twyni tywod.

Yn 2004, ceisiodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol arafu’r gyfradd erydu drwy roi cerrig mawr ar ochr y twyni sy’n wynebu’r môr.

Bu hyn yn llwyddiannus tan 2014 pan wnaeth stormydd difrifol rwygo’r cerrig mawr i ffwrdd gan amlygu’r claddedigaethau unwaith eto.

Roedd difrod parhaus i’r Heneb Gofrestredig yn golygu bod angen cloddio ar frys er mwyn adfer gymaint o wybodaeth â phosibl.

Cynhaliwyd gwaith cloddio yn 2014, 2015 a 2016 gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Phrifysgol Sheffield gyda chymorth gan Cadw, Ymddiriedolaeth Elusennol Nineveh a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol.

Un o'r sgerbydau a geir ar safle'r capel

Mae cloddio’r fynwent wedi datgelu dros 100 o gladdedigaethau hyd yn hyn. Mae dyddio radiocarbon wedi dangos bod y fynwent yn cael ei defnyddio rhwng y 6ed ganrif a’r 11eg ganrif O.C.

Mae dadansoddi’r sgerbydau wedi dangos bod poblogaeth gymysg o ddynion, menywod a phlant o bob oedran.

“Rydym yn amcangyfrif bod hyd at 1,000 o bobl wedi cael eu claddu yng Nghapel Sant Padrig” meddai’r archaeolegydd Ken Murphy.

“Mae’n debygol bod cymysgedd o bobl leol, morwyr, masnachwyr, pererinion ac eraill yn teithio i Dyddewi rhwng yr 8fed ganrif a’r 11eg ganrif.”

Roedd beddau wedi’u halinio o’r dwyrain i’r gorllewin gyda’r pen i’r gorllewin. Yn unol â’r traddodiad claddu Cristnogol, nid oedd unrhyw eiddo wedi’i gladdu gyda’r cyrff.

Roedd rhai o’r sgerbydau mewn cistfeini – gyda beddau wedi’u leinio a’u capio â llechfeini, traddodiad claddu cyffredin ledled gorllewin Prydain yn y cyfnod canoloesol cynnar.

Nodwyd defod gladdu unigryw hefyd – sef claddu plant gyda cherrig bach cwarts gwyn ar ben y cistfeini.

Mae cryn dipyn o dystiolaeth ar ôl i’w gloddio, gan gynnwys strwythur carreg diddorol sy’n hŷn na’r claddedigaethau.

Mae’r prosiect bellach yn rhan o raglen Cymru-Iwerddon 2014-2020. Mae cyllid Ewropeaidd hefyd wedi cael ei sicrhau ar gyfer cloddio pellach yn 2019, 2020 a 2021.

Y nod yw parhau i ymchwilio i Gapel Sant Padrig gan fod gan y dystiolaeth archeolegol y potensial i drawsnewid ein dealltwriaeth o’r cymunedau Cristnogol a oedd yn byw ac yn marw yn Sir Benfro yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar.

Bydd Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed yn darparu teithiau tywys rheolaidd o 9 Medi i 27 Medi. Nid oes angen trefnu lle ac mae’r teithiau am ddim.