Darganfod Parciau Cenedlaethol yn ystod pythefnos o hwyl

Darganfod Parciau Cenedlaethol yn ystod pythefnos o hwyl

Dydd Sadwrn 6 Ebrill bydd Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol yn dechrau – dwy wythnos o ddathlu ar draws y DU gyda digwyddiadau a phrofiadau yn cyd-daro â gwyliau’r Pasg er mwyn ysbrydoli pobl o bob oed a diddordebau i fynd allan i archwilio a dysgu mwy am y mannau arbennig hyn.

Mae pob un o’r 15 Parc Cenedlaethol yn y DU yn unigryw – mae rhai yn cynnwys mynyddoedd uchel ac eraill â gwlypdiroedd ac arfordir dramatig yn rhan ohonynt. Mae dathliad eleni’n nodi 70ain Pen-blwydd Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 a fraenarodd y tir ar gyfer sefydlu Parciau Cenedlaethol yn y DU.

Maent yn cynnig cyfleoedd diderfyn i archwilio, dysgu ac ymlacio, boed hynny drwy fynd am dro hamddenol gyda’r teulu a’r plant mân yn archwilio pob coeden a blodyn ar y ffordd, anturiaethau cyffrous i ddenu pobl ifanc yn eu harddegau oddi wrth eu ffonau neu ddigwyddiadau diwylliannol yn edrych ar hanes arbennig y Parciau Cenedlaethol.

Dywedodd Gwyneth Hayward, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n gobeithio y bydd y 14 diwrnod o ddathlu’n annog mwy o bobl i archwilio’r dirwedd sydd gyda’r gorau yn y byd ac ar drothwy eu drws, ac i ailgysylltu â byd natur yn ystod Blwyddyn Darganfod.

“Gall treulio amser yn yr awyr agored roi hwb i’ch iechyd meddyliol a chorfforol, felly p’un ai a fyddwch yn mynd am dro ar Lwybr Arfordir Sir Benfro, yn archwilio un o safleoedd treftadaeth yr ardal neu’n cymryd ychydig amser i droi eich sgrin i ffwrdd ac archwilio cefn gwlad, mae digon o ffyrdd i chi gymryd rhan yn y bythefnos o hwyl.”

Mae gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol nifer o ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal ar draws Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol a chydol gwyliau’r ysgol.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys teithiau cerdded tywysedig a gwylio bywyd gwyllt yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol, yn ogystal â helfeydd trysor ar thema’r Pasg a hanes byw yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.

I gael manylion llawn ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau neu mynnwch gopi o Coast to Coast 2019!Ymunwch â #NationalParksFortnight2019 a #DiscoverNationalParks gydol y flwyddyn.