Croeso i 2018 – Blwyddyn y Môr

Beth sydd ar y gweill ar gyfer 2018?

Drwy gydol y flwyddyn byddwn yn dathlu ein harfordir a’n traethau arbennig, wrth i Gymru neidio dros ei phen a’i chlustiau i Flwyddyn y Môr.

Mae Blwyddyn y Môr yn berffaith ar gyfer Sir Benfro. Mae dŵr o’n cwmpas ar dair ochr a does unman yn Sir Benfro yn bellach na 14 milltir o’r arfordir, felly gallwch weld pan fod dŵr y môr yn ein gwythiennau.  

Y ffordd orau o weld ein harfordir yw o Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n 186 milltir o hyd, o Landudoch yn y gogledd i Amroth yn y de. Byddwch yn pasio morluniau fydd yn mynd â’ch gwynt, traethau gwobredig a sawl harbwr, cilfach ac ynys. Byddwch, heb os, yn pasio ein 10 lle gorau yn Sir Benfro i’w Instagramio. 

Ac yn sicr, fe fyddwch yn pasio rhai sydd wrth eu bodd yn y dŵr neu ar y dŵr. Gallwch arfordiro,syrffio, deifio, padlfyrddio, caiacio heb sôn am chwarae ar gychod – er mwynpysgota neu hwylio. 

Dod i Sir Benfro fydd eich profiad arfordirol gorau yn 2018. 

Croeso i’n Blwyddyn y Môr.