Cragen, anghenfil môr chwedlonol Cymru

Ysgrifennwyd gan Theatr Byd Bychan

Cragen yw anghenfil chwedlonol newydd Theatr Byd Bychan, a fydd yn ymddangos o gwmpas arfordir anhygoel Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr. 

Dywedir fod Cragen yn byw oddi ar arfordir Cymru, ac mae’r arbenigwyr yn rhagweld y bydd hi’n ymddangos mewn deg lleoliad gyda neges bwysig ynglŷn â gwarchod ein moroedd. Bydd cymunedau ac ymwelwyr yn synnu o weld ei dyfeisgarwch ai maint, wrth iddi ddod â gwastraff plastig o’r môr. 

Theatr Byd Bychan o Aberteifi sy’n gyfrifol am y pyped morol enfawr yma. Sefydlwyd y cwmni yn 1996, ac maent yn edrych ymlaen yn arw at gael teithio gyda’u cawr diweddaraf (oddeutu 20 metr o hyd) i Geredigion, Sir Benfro, Sir Fôn, a Chonwy, yn annog pobl i fynd i grwydro ‘Ffordd Cymru’, a lansiwyd yn ddiweddar gan Croeso Cymru. 

©Theatr Byd Bach / Martin Neale 
Cragen 

Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddod i weld perfformiadau Cragen rhwng mis Gorffennaf a Rhagfyr, ac i fod yn rhan o’r gweithgareddau cyffrous a’r digwyddiadau sy’n cyd-fynd â’r daith, megis: taith ‘Sea Wales 7D’ yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt (lle gallwch ddysgu am rai o’r creaduriaid morol sy’n byw yng Nghymru); digwyddiadau glanhau traethau Cadw Cymru’n Daclus ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru; a llu o ddigwyddiadau i’r teulu wedi’u trefnu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac eraill.

©Theatr Byd Bach 
Cragen yn cyrraedd Cei Ystangbwll  

Bydd Cragen yn ymuno yn y dathlu mewn gwyliau sydd wedi hen sefydlu hefyd, fel Gŵyl Fwyd Môr i’r Tir Aberystwyth, Gwledd Conwy a’r Orymdaith Lanterni Enfawr yn Aberteifi. 

Bydd Cragen yn siŵr o ddenu cefnogaeth busnesau lleol a grwpiau cymunedol di-blastig. 

Meddai’r Gweinidog Twristiaeth, Diwylliant, a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae Blwyddyn y Môr yn gyfle gwych i ni arddangos ein harfordir anhygoel i weddill y byd. Mae gennym 50 o ynysoedd, 230 o draethau, a mwy o Faneri Glas i’r filltir nac unrhyw le arall ym Mhrydain – heb anghofio ein Llwybr Arfordir 870 milltir o hyd, y cyntaf o’i fath yn y byd. 

“Ond, y mae hefyd yn gyfle i ni wella ymwybyddiaeth o’r angen i warchod ein hamgylchedd – ac i’n hatgoffa o’r effaith yr ydym ni’n ei gael ar ein moroedd a’n harfordiroedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i leihau’r defnydd o blastig defnydd sengl¸ac rwy’n falch iawn ein bod ni’n cefnogi’r prosiect dyfeisgar hwn gan Theatr Byd Bach. Bydd Cragen yn gwella ymwybyddiaeth o effaith plastig defnydd sengl, a bydd cael ein harfordir anhygoel yn gefndir yn pwysleisio’r hyn sydd angen ei warchod er lles cenedlaethau’r dyfodol.” 

Dilynwch daith Cragen ar y we trwy fynd i cragenmoroeddglan.cymru  a chofiwch ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol os fyddwch chi’n ei gweld, gan ddefnyddio’r hashnodau #cragenmoroeddglan #cleanseascragen #findyourepic #cleanseas. 

Mae’r prosiect yma wedi derbyn nawdd y Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth (TPIF) yn ogystal â chefnogaeth Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a noddir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru; amcan y Gronfa yw hybu syniadau dyfeisgar am gynnyrch trwy weithio mewn partneriaeth, er mwyn cael mwy o effaith a denu rhagor o ymwelwyr.