Heriau sy'n deillio o ymchwydd

sydyn mewn twristiaeth

Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson, wedi ymgynghori ag arweinwyr yng Nghynghorau Sir Ceredigion a Sir Gaerfyrddin; Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad ar draws ardal Hywel Dda wrth baratoi’r datganiad canlynol:

Wrth i bandemig Coronafirus (COVID-19) fynd rhagddo, mae’n hanfodol ein bod i gyd yn chwarae ein rhan i fynd i’r afael â’r clefyd hwn mewn her na welwyd ei thebyg o’r blaen yn y cyfnod modern.

‘ Yn arbennig Mae’n bwysig dros ben bod pawb yn dilyn y cyngor gan y Llywodraeth i arafu a rhwystro’r firws hwn rhag lledu a’n bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn enwedig ein GIG.

‘ Mae’r Llywodraeth bellach wedi annog y cyhoedd i aros gartref a chyfyngu ar teithio i siwrnai hanfodol yn unig ac ni ellir gorbwysleisio pa mor hanfodol yw’r cyngor hwn.

‘ Un pryder mawr yr ydym yn dechrau ei weld yw mewnlifiad o dwristiaid i Orllewin Cymru a’r canlyniadau y gallai hyn eu cael yn yr wythnosau nesaf ac yn enwedig y perygl difrifol y bydd pwysau aruthrol, diangen ar ein gwasanaethau a’n cadwyni cyflenwi.

‘ Fel gefnogwyr cryf i’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch yma yn y gorllewin, rydym yn deall yn iawn yr heriau enfawr a difrifol sy’n wynebu’r sector a pham y bydd rhai busnesau am fanteisio ar y cyfle hwn i ddenu ymwelwyr ar hyn o bryd.

‘ Fodd bynnag, ein prif flaenoriaeth yw’r angen i atal lledaeniad y firws hwn a hefyd amddiffyn ein GIG rhag y pwysau cynyddol a ddaw yn sgil twristiaeth ar adeg pan fyddant yn cael eu hymestyn i’r eithaf.

Yn unol â Chyngor swyddogol y Llywodraeth a hefyd er mwyn cydnabod buddiannau’r boblogaeth breswyl yma yng Ngorllewin Cymru, mae’n resyn mawr ein bod yn cymryd cam digyffelyb a gofyn i bobl beidio â dod ar eu gwyliau i Sir Benfro, Ceredigion neu Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd.

‘ Rydym gyda’n gilydd yn archwilio pob ffordd i gefnogi’r holl fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng hwn ond y pryder pennaf yw cadw pobl yn ddiogel ac yn iach.

‘ Peidiwch â bychanu’r risg y mae’r clefyd hwn yn ei gyflwyno a byddem yn eich annog i gymryd yr holl gamau priodol i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel, a hefyd yn helpu pawb sy’n byw ac yn gweithio yma yng Ngorllewin Cymru i aros yn ddiogel ac yn iach.

‘ Rydym yn addo i chi y bydd Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yr un mor anhygoel o leoedd unwaith y daw hyn i ben ac rydym yn edrych ymlaen at y diwrnod yn y dyfodol agos pan fyddwn unwaith eto yn croesawu pawb yn ôl. ‘

Mae’r datganiad hwn wedi’i gyhoeddi ar ran y canlynol:

  • David Simpson, arweinydd Cyngor Sir Penfro
  • Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Gâr
  • Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion
  • Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

I gael rhagor o wybodaeth am Covid-19 ewch i wefan Cyngor Sir Penfro.