Coronafeirws: cyngor i ymwelwyr

â Chymru

Wedi’i ddiweddaru: 21/12/2020

Mae’r cyfyngiadau’n newid yn aml, felly mae’n bwysig eich bod yn edrych ar wefan Llywodraeth Cymru cyn ymweld â Chymru neu deithio o fewn Cymru. Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin

Mae Cymru wedi symud i lefel rhybydd pedwar gyda mesurau llym i gyfyngu ar ledaeniad y feriws.  Mae Datganiad Prif Weinidog Cymru  – 19 Rhagfyr yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Amserlen:

O hanner nos, 19 Rhagfyr 

  • Cymru yn cyflwyno cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar.  Bydd pob busnes manwerthu nad yw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos, a phob canolfan hamdden a ffitrwydd wedi cau.  Mae cyfyngiadau aros gartref mewn grym.

25 Rhagfyr (Dydd Nadolig)

  • Caiff dwy aelwyd ddod at ei gilydd i ffurfio swigen Nadolig.

26 Rhagfyr

  • Cymru yn dychwelyd i gyfyngiadau lefel rhybudd pedwar.

Canllawiau penodol ar gyfer 25 Rhagfyr 2020

O fewn Cymru, ar 25 Rhagfyr 2020:

  • cewch ffurfio ‘swigen Nadolig’ unigryw sy’n cynnwys dim mwy na dwy aelwyd
  • cewch fod yn rhan o un swigen Nadolig yn unig
  • ni chewch newid eich swigen Nadolig
  • cewch deithio i unrhyw le yn y DU at ddibenion cwrdd â’r bobl yn eich swigen Nadolig

Nid oes rhaid ichi ffurfio swigen Nadolig.  Y mwyaf o bobl a welwch, y mwyaf tebygol yw hi y byddwch yn dal neu’n lledaenu coronafeirws (COVID-19). Gallwch ledaenu coronafeirws i eraill hyd yn oed os nad oes gennych chi a’r bobl rydych chi’n eu cyfarfod unrhyw symptomau. Mae angen i chi a’r bobl eraill yn eich swigen Nadolig ystyried y risgiau hyn yn ofalus cyn cytuno i ffurfio swigen.

Dylech ystyried ffyrdd eraill o ddathlu’r Nadolig, fel defnyddio technoleg a chyfarfod yn yr awyr agored, heb ddod ag aelwydydd at ei gilydd na theithio rhwng gwahanol rannau o’r wlad. Mae risgiau ychwanegol wrth ffurfio swigen os ydych yn agored i niwed neu’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol.

Darllenwch y canllawiau ar ffurfio swigen Nadolig gyda ffrindiau a theulu.

Gwybodaeth bellach

Dylid cyfeirio at y dolenni canlynol i gael mwy o wybodaeth am feysydd penodol sy’n ymwneud â COVID-19: