Blwyddyn yn Sir Benfro

Ysgrifennwyd gan David Wilson

A Year in Pembrokeshire gan y ffotograffydd David Wilson a’r darlledwr Jamie Owen

Mae dechrau llyfr newydd bob amser yn gyfuniad rhyfedd o gyffro a phryder; a’r lluniau cyntaf yn teimlo fel y camau cyntaf ar gychwyn taith ddi-ben-draw. Ond pan fydd y delweddau’n dechrau ymddangos, ac wrth i’r casgliad ddechrau tyfu, rwy’n teimlo fy hun yn cael fy sgubo tua’r terfyn; a digonedd o ddeunydd ar gyfer llyfr newydd sbon.    

©David Wilson
David Wilson (chwith) Jamie Owen (de)

Roedd cael cydweithio â ffrind ar y llyfr hwn yn gysur mawr o’r eiliad gyntaf. Roedd y ddau ohonom yn rhannu’r un amcanion wrth fwrw iddi, a bron fel pe baem yn rhannu’r un meddwl hefyd ar brydiau! Roeddwn i’n gwybod beth fyddai Jamie’n ei ysgrifennu, ac roedd yntau yn yr un modd yn gwybod beth fyddwn i’n ei ddal ar gamera: symbiosis dedwydd iawn. A dweud y gwir, doedd o ddim yn teimlo fel gwaith o gwbl, ond yn hytrach fel rhyw bleser euog. 

Ac mae rhywbeth hudolus iawn am fynd ati i greu llyfr am eich milltir sgwâr. Rydw i a Jamie yn ddau frodor o’r penrhyn hwn, a’r ddau ohonom â chariad mawr tuag at Sir Benfro. Os oes gan rywun gysylltiad cryf ac angerdd am fro eu mebyd, mae’n anochel y byddan nhw’n credu bod rhyw harddwch annatod yn perthyn i’r ardal honno. A dyna sut y bu hi gyda mi a Jamie, a’n dehongliad personol ni o Sir Benfro. Tir o faeau tywodlyd bychain a chlogwyni serth, o gaeau eang a chreigiau tal, o fryniau a phantiau a ffermydd, pentrefi clòs a threfi bychain, oll wedi’u hollti’n ddau gan fynd a dod diddiwedd llanw a thrai aber y Ddaugleddau. 

©David Wilson
Trigolion Ynys Bŷr yn dychwelyd adref o’r tir mawr

Ac felly, i fwrdd â ni rhwng y cloddiau uchel, ar hyd y bryniau moel, a thros ddŵr, y beiro’n barod a’r camera’n clicio, a’n amlach na pheidio gyda’r haul ar ein cefnau. A dyma ffrwyth ein llafur – ‘A Year in Pembrokeshire’, ein cân o fawl i’n cartref. Llyfr sy’n trin a thrafod y bobl a’r cymunedau sy’n rhan o’r dirwedd. Llyfr am dreulio oes ar gilcyn sy’n ymwthio allan i Fôr Iwerddon, ym mhob tywydd. Dyma lyfr am obaith a bodlonrwydd yn wyneb prysurdeb y byd; mewn oes pan fo busnesau mawrion yn mynnu ein bod ni i gyd yr un fath, ac yn awchu am yr un pethau. Mae’r llyfr hwn yn her fawr i’r syniad hwnnw. 

Ac yn olaf, dyma’r llyfr yr oeddwn i a Jamie wedi bod eisiau ei ysgrifennu erioed. Dyma ein teyrnged ni i’n cartref. Dyma ddathliad o bobl a thirwedd y penrhyn hwn ar ymyl gorllewinol Prydain. Ymhen can mlynedd, pe bai rhywun yn canfod copi blêr yn rhywle, rwy’n gobeithio y byddan nhw’n cael rhyw gip o’r oes a fu, yn deall rhyw fymryn, ac yn teimlo ton o hapusrwydd yn llifo lawr y blynyddoedd. 

Cyhoeddir y llyfr gan Graffeg, ac mae ar gael mewn siopau llyfrau ac oddi ar wefan David Wilson Photography. 

Ymunwch â Jamie a David am sgwrs ynglŷn â’r llyfr yn Theatr Torch yn Aberdaugleddau ar y 19eg o Orffennaf 2018. 

 Gallwch eu gweld yng Ngŵyl Lenyddiaeth Llangwm hefyd, ar yr 11eg o Awst, 2018.