Beth sy’n digwydd ym mis Chwefror 2018

Ysgrifennwyd gan Croeso Sir Benfro

Beth sy’n digwydd ym mis Chwefror 2018 

Mae’r mis hwn yn gymysgwch arbennig o rythmau Ciwba, sinema sy’n procio’r meddwl a straeon un o anturiaethwyr enwocaf y byd.  

Yn ystod hanner tymor, dewch i weld Marchogion, Tywysogesau a Dreigiau, dewch i hedfan barcud a dewch â’r plant i’r theatr bydd digon i gadw hyd yn oed y plant ieuengaf yn hapus 

Ac ar y dyddiau hynny pan fydd y plant angen llosgi dipyn o’u hegni a rhedeg yn wyllt, mae digon o bethau i’w cadw’n brysur – cymerwch olwg ar y canlynol:  

  • Dydd Gwener 2 Chwefror 

Sultans of String yn  Neuadd y Frenhines 

Yn rhoi gwefr i gynulleidfaoedd gyda’u sioe amrywiol o benillion Celtaidd, rhythmau Fflameco, Jazz sipsi, Arabaidd a Chiwbaidd. “Rhyfeddol, meistrolaeth sylweddol a threfniadau chwaethus… mae’r awyrgylch hapus yn hudolus”- Songlines UK. Drysau’n agor am 7yh. 

  • Dydd Sadwrn 3  Chwefror 

Sinema ‘Rooms with a View  

Bydd Llyfrgell Dinbych-y-pysgod yn dangos cyfres y gaeaf o ‘Future Shorts’. Bydd yn 90 munud o ffilmiau byrion gwobredig diddorol, hwyliog i brocio’r meddwl. Ffilmiau yw’r rhain sydd wedi eu dewis yn ofalus o wyliau ar hyd a lled y byd. Mae’r tocynnaun £5. Bydd y drysau’n agor am 6:30yh. Addas ar gyfer rhai 15 oed a hŷn. Rhagor o wybodaeth: 01437 775 151 

  • Dydd Sul 4 Chwefror 

Ymarferion cylch ar draeth y De Aberllydan,  Ystâd Ystangbwll Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol  

Cadwch yn heini yn yr awyr agored drwy wneud ymarferion cylch ar draeth De Aberllydan. Ymunwch â’n hyfforddwr am sesiwn awr bob dydd Sul yn ystod mis Chwefror. Addas ar gyfer pob oed a gallu. Wynebwch yr her o ymarfer wrth y môr! £2 yr oedolyn. 

  • Dydd Mawrth 6 Chwefror 

Cerddoriaeth fyw gan Pembrokeshire Intimate Gigs 

The Brother Brothers 

Harmonïau cyfoethog a chaneuon myfyriol i gyfeiliant gitâr, cello, ffidil a banjo gan neb llai na The Brother Brothers. Y noson i’w chynnal yng nghanolfan cerddoriaeth fyw Cwtch, Doc Penfro. Mae’r perfformiad yn dechrau am 8yh. 

  • Dydd Sadwrn 10 ChwefrorDydd Sul 25 Chwefror 

Hwyl hanner tymor yn Maenordy Scolton 

Er mwyn dathlu Blwyddyn y Môr mae gan Scolton lu o gwisiau’n ymwneud â’r môr, digon o gyfleoedd i greu ar y thema forol yn yr ardal gelf a chrefft, gan gynnwys octopysau o blatiau papur, sglefrod môr a morfeirch sy’n arnofio, ynghyd â Helfa Bysgod a Helfa Bywyd Môr ar hyd a lled y gerddi.  

  • Dydd Llun 12  ChwefrorDydd Iau 15  Chwefror 

Marchogion, Tywysogesau a Dreigiau yng Nghastell Penfro  

Bydd Howard yr arbenigwr yn mynd â chi ar daith gan ddweud straeon wrth y plant am frenhinoedd, tywysogesau a marchogion, morladron ac ogofâu, a dwnjwns a dreigiau. Y digwyddiadau am ddim ond bydd tâl mynediad arferol 

  • Dydd Llun 12  Chwefror Dydd Llun 25  Chwefror 

Helfa mewn cartref Tuduraidd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd 

Chwiliwch am y doliau Tuduraidd sydd wedi eu cuddio o gwmpas y tŷ a cheisiwch ddarganfod beth oedd eu gwaith. Roedd yn rhaid cael nifer o wahanol swyddi er mwyn rhedeg y cartref yn llwyddiannus. Mae’r digwyddiad am ddim ond bydd tâl mynediad arferol. O 11yb ymlaen.  

Chwilio am Ddreigiau yng Nghastell Caeriw 

Defnyddiwch eich holl sgiliau hela dreigiau wrth grwydro’r castell er mwyn dod o hyd i ddraig! Cewch eich gwobrwyo am eich ymdrechion. Y digwyddiad yn £1 i blentyn ynghyd â’r tâl mynediad arferol.  

  • Dydd Mercher 14  Chwefror 

Hwyl gyda’r Helyg yng Ngerddi Coedwig Colby  

Dysgwch sut i greu celf wyllt gan ddefnyddio natur unigryw pren helyg. Plethwch ac addurnwch eich darn pren eich hun i fynd adref gyda chi. Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01834 811885. Tocyn i’r digwyddiad yn £3 yn ogystal â’r tâl mynediad arferol.  

“Southern Island – South America” yn theatr Canolfan Ystangbwll 

Freya Hoffmeister yw Anturiaethwr y Flwyddyn National Geographic ac mae hi wedi bod o gwmpas Gwlad yr Iâ, De Seland Newydd, Awstralia a De America mewn caiac! Nid ar gyfer padlwyr yn unig mae’r sgwrs hon ac mae’n gyfle prin i unrhyw un sydd am glywed un o anturiaethwyr enwocaf y byd yn siarad. Rhaid cadw lle – Ffoniwch 0344 2491895 Tocynnau £12. 

  • Dydd Gwener 16  Chwefror 

Taith Ysbrydion 2: The Shriek-ual yng Nghastell Penfro 

Os am noson ddychrynllyd ewch ar y daith hwyr o gwmpas twneli tywyll, tyrrau diflas a grisiau troellog Castell Penfro a chlywed straeon am ysbrydion ac anturiaethau poltergeist. Oed 16+, a rhaid i’r rhai sy’n 16 -17 oed fod gydag oedolyn. 

  • Dydd Sul 18 Chwefror 

Sesiwn gwylltgrefft sylfaenol yng Ngerddi Coedwig  Colby  

Ewch i’r goedwig am sesiwn gwylltgrefft gyda’n harweinydd arbenigol. Boed yn gynnau tân neu adeiladu cuddfannau, mae llawer i’w ddysgu os ydych eisiau bod yn anturiaethwr yn yr awyr agored! Rhaid cadw lle. Ffoniwch 01834 811885. Tocyn i’r digwyddiad yn £3 ynghyd â thâl mynediad arferol. 

  • Dydd Llun 19  ChwefrorDydd Gwener 23  Chwefror 

Hwyl celf a chrefft yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cymru 

Dyma wythnos gyfan yn llawn syniadau am grefft felly bydd gennych ddigon o ddewis. Gallwch baentio madfall symudol, pot blodyn gwyllt, teclyn bwydo adar neu roi tro ar baentio llechi. Digon o ddewis! Am ragor o fanylion am weithgareddau dyddiol, edrychwch ar y wefan 

  • Dydd Mawrth 20  Chwefror 

Theatr Plant: ‘Tom Thumb’ yn Neuadd y Frenhines 

Er mwyn nodi 15 mlynedd o weithgaredd, mae Lyngo yn dod â’u sioe gyntaf yn ôl, wedi’i hailwampio a’i haddasu’n arbennig ar gyfer cynulleidfa iau. Mae’r sioe fach hudol hon a gaiff ei pherfformio ar neu o dan fwrdd cegin, yn llawn lledrith, gydag adar pluog troellog, tŷ sy’n hedfan a choedwig symudol! Oed 3+. Dechrau am 2yp. Tocynnau gan Span Arts. 

  • Dydd Mercher 21 Chwefror 

Glanhau’r Traeth yn Freshwater West 

Casglwch y sbwriel a glanhau’r traeth cyn tymor y gwyliau er mwyn helpu Ystâd Ystangbwl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ofalu am y rhan hardd hon o’r arfordir. Darperir gasglwyr sbwriel, menig a bagiau. Pawb i gwrdd yn Freshwater West erbyn 12yp. Digwyddiad rhad ac am ddim. 

  • Dydd Gwener 23  Chwefror 

Gŵyl hedfan barcud yn Fferm  Gupton  

Ewch allan i’r awyr iach yng ngŵyl hedfan barcud Gupton a gwnewch yn siŵr eich bod yn dal yn dynn! Gallwch hedfan barcud yn y cae a bydd gweithgareddau addurno barcutiaid yn yr ysgubor. Pawb i gwrdd Fferm Gupton o 12yp ymlaen. Digwyddiad rhad ac am ddim.  

  • Dydd Sadwrn 24 Chwefror 

Tyhai yn y Theatr Byd Bach 

Cydweithrediad Indo-Celtaidd cyffrous rhwng tri cherddor sy’n byw yng Nghymru: Rajesh David, Pete Stacey a Dylan Fowler. Bydd Tyhai’n perfformio ragâu a rhythmau cerddoriaeth Indiaidd, penillion o farddoniaeth Sufi a thestunau Sanskrit hynafol yn ogystal â cherddoriaeth a chaneuon traddodiadol o Gymru. Drysau’n agor am 8yp. Tocynnau £10. 

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi