Swyddi gwag am Gyfarwyddwr Bwrdd Croeso Sir Benfro
Croeso Sir Benfro yw’r Sefydliad Rheoli Cyrchfan swyddogol ar gyfer Sir Benfro ac mae’n bartneriaeth a arweinir gan fusnesau sy’n gyfrifol am gydgysylltu’r gwaith o gyflawni Cynllun Rheoli Cyrchfan 2020-25. Ein nod yw tyfu twristiaeth yn gynaliadwy er budd pawb, a gwneud Sir Benfro yn un o’r 5 prif ddewis cyrchfan yng ngwledydd Prydain.
Ymhlith prif weithgareddau Croeso Sir Benfro mae’r canlynol:
- Arweinyddiaeth ac eiriolaeth ym myd twristiaeth.
- Marchnata cyrchfan.
- Cyflawni ymgyrchoedd a phrosiectau.
- Bod yn ddolen gyswllt â’r diwydiant ac yn ffynhonnell cymorth.
- Gwaith ymchwil a gwybodaeth.
- Cymorth i gynnal digwyddiadau.
Rydym yn bwriadu penodi 2 gyfarwyddwr newydd o blith economi twristiaeth Sir Benfro fyddai’n cyfrannu at godi proffil y sir, yr arlwy twristiaeth, a chynorthwyo i gyflawni cynlluniau strategol Croeso Sir Benfro.
Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol ynghyd â sgiliau rhwydweithio a meithrin perthynas yn gryfderau pwysig i’w dwyn i’r rôl yn ogystal â’r gallu i fod yn ddiplomataidd a dealltwriaeth gadarn o economi twristiaeth y sir.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn Cyfarwyddwyr Bwrdd newydd sydd â phrofiad mewn:
- Twf yn yr aelodaeth.
- Adnoddau Dynol.
- Cyllid busnes, materion cyfreithiol a masnacheiddio.
Yn ogystal, byddai gennym ddiddordeb mewn derbyn ceisiadau gan y sectorau canlynol:
- Cyflenwyr bwyd a diod.
- Cyflenwyr cyffredinol i’r fasnach dwristiaeth.
- Meysydd Carafanau.
- Atyniadau
Bydd angen i Gyfarwyddwyr Bwrdd sy’n cynrychioli’r sector twristiaeth preifat fod yn aelodau o Croeso Sir Benfro, a rhaid iddynt fod yn rhagweithiol, bod yn angerddol am dwristiaeth, ac ymrwymiad, egni a phresenoldeb i gyfrannu at hyrwyddo Sir Benfro yn effeithiol ac at feithrin gweithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau twristiaeth.
GWNEUD CAIS
A fyddech gystal â llenwi’r ffurflen gais atodedig a’i dychwelyd at janereesbaynes@gmail.com.
Bydd panel yn cyfweld â’r ymgeiswyr ar y rhestr fer, naill ai’n bersonol neu’n electronig, yn ôl y gofyn. Y dyddiad cau terfynol ar gyfer ceisiadau yw’r 1af o Chwefror 2024. Caiff yr apwyntiadau eu cadarnhau wedyn yn ein Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar yr 11eg o Ebrill 2024.