Cymraeg
Hygyrchedd
Skip to main content

Swyddi Gwag

Swyddi Gwag

Yn Visit Pembrokeshire

4 diwrnod yr wythnos/ (30 awr)

Cydlynydd Marchnata ac Aelodaeth

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Marchnata ac Aelodaeth sy’n frwdfrydig, yn greadigol ac yn ddeinamig i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth i gynyddu twristiaeth er budd Sir Benfro.

Ymweld â Sir Benfro yw'r Sefydliad Rheoli Cyrchfannau Swyddogol ar gyfer Sir Benfro. Rydym yn bartneriaeth a arweinir gan fusnesau sy'n dod â’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector ynghyd i weithio ar y cyd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i dwristiaeth yn Sir Benfro.

Os oes gennych brofiad o gynllunio, creu a chyflwyno cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n ddeniadol ac sy'n cynyddu cynulleidfaoedd newydd, rheoli cyfrifon, a helpu i drefnu digwyddiadau Busnes i Fusnes, gallai’r swydd hon fod yn ddelfrydol i chi.

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus iawn sy'n byw yn Sir Benfro, sy'n hyderus wrth ysgrifennu testun byr, ffilmio a golygu riliau, â gwybodaeth ragorol o’r sir.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i rywun ein helpu i adeiladu a chryfhau brand Sir Benfro, i dyfu ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd Busnes i Gwsmer a Busnes i Fusnes, ac i'n cynorthwyo i dyfu a chryfhau ein cymuned Aelodaeth. Os ydych yn angerddol am Sir Benfro ac yn dymuno chwarae rhan mewn helpu i lywio twristiaeth yn y rhan odidog hon o'r byd, a bod gennych y profiad a'r angerdd i'n helpu i gyflawni ein gweledigaeth, hoffem glywed gennych.

Rydym yn Cynnig

  • Cyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa.
  • Amgylchedd gwaith hybrid a gefnogir gan ddiwylliant agored o ddysgu a datblygu ar gyfer pob aelod o staff.
  • Pensiwn gweithle hael.

Cyflog : £26K pro rata (30 awr yr wythnos) Dydd Llun-Dydd Iau

Dyddiad cau: Dydd Iau 5ed o Fawrth

Clicier fan hyn am ragor o wybodaeth am y swydd, a gwneud cais drwy lythyr eglurhaol a CV yn nodi sut y bernwch eich bod yn diwallu gofynion y swydd, ac anfon eich cais drwy’r e-bost at info@visitpembrokeshire.com.

Ynglŷn ag Ymweld â Sir Benfro

Ymweld â Sir Benfro yw'r Sefydliad Rheoli Cyrchfannau Swyddogol ar gyfer Sir Benfro. Mae’r sefydliad yn cael ei arwain gan fusnesau ac yn rhoi arweinyddiaeth ac eiriolaeth ar faterion twristiaeth, marchnata cyrchfannau, cyflwyno ymgyrchoedd a phrosiectau, cysylltu a chefnogi'r diwydiant, gwaith ymchwil, a gwybodaeth, ynghyd â chymorth i gynnal digwyddiadau. Dan arweiniad y Prif Weithredwr Emma Thornton a bwrdd o 10 cyfarwyddwr (gan gynnwys aelodau'r sector preifat o'r fasnach, Cyngor Sir Penfro, APCAP a PLANED), mae canolfan tîm Ymweld â Sir Benfro yng Nghanolfan Arloesedd y Bont, Doc Penfro. I gael gwybod mwy am Ymweld â Sir Benfro – ewch i https://www.visitpembrokeshire.com

Gwnewch gais nawr