Fyddwch chi ar eich traed ymhen dim

Ysgolion syrffio i blant

Gwersi fyddan nhw’n siwr o’u mwynhau

Ysgolion syrffio perffaith i blant

Dyma wersi fydd y plant wir eisiau’u dysgu yn un o ysgolion syrffio Sir Benfro.

Mae’n siŵr na fydd y plant am glywed sôn am yr ysgol tra fyddwch chi ar eich gwyliau, ond beth am y geiriau ‘gwersi syrffio’? Mi fydd hynny’n wahanol.

Dyma rai o Ysgolion Syrffio Sir Benfro, beth sy’n cael ei gynnig yno a beth allwch chi ei ddisgwyl o’ch profiad syrffio.

I’r rhai sy’n syrffio am y tro cyntaf, y nod yw dysgu’r hanfodion, gan gynnwys diogelwch ar y traeth, sut i drin y bwrdd, llywio, safle’r corff, padlo, dal tonnau a – sefyll!

Felly i ffwrdd â chi! Mae’n bryd mentro i’r môr!

Outer Reef Surf School                                                                                                       

  • Traethau: Maenorbŷr, Freshwater West, Aberllydan, Niwgwl
  • Oedran ieuengaf: 6
  • Dosbarthiadau i deuluoedd a phlant

Yn ôl ysgol syrffio Outer Reef, mae dechreuwyr angen sesiwn hanner diwrnod. Mae’r ysgol yn arbenigo mewn sesiynau i blant ysgol a chlybiau plant, felly mae ganddi hen ddigon o brofiad o ddysgu plant.

Mae gan Outer Reef hefyd gynllun iau gyda thystysgrifau i blant.

Mae’r cynllun ar waith ledled Ewrop, felly ble bynnag fyddwch chi’n syrffio, gallwch ddatblygu ac ennill tystysgrifau wrth i chi wella a dysgu technegau newydd.

Ysgol Syrffio Ma Simes

  • Traethau: Porth Mawr
  • Oedran ieuengaf: 8
  • Dosbarthiadau cymysg, dim mwy nac wyth o bobl.

Daw adroddiadau syrffio yn syth o’r traeth a’r Ma Simes Surf Hut, ar Stryd Fawr Tyddewi, yw un o siopau syrffio hynaf Cymru.

Sefydlwyd yr ysgol syrffio yn 2001 ac maen nhw’n treulio cymaint o amser â phosibl ar y traeth ac yn y dŵr.

Cynhelir sesiynau bore a phrynhawn bob dydd rhwng mis Mai a mis Hydref; mae’r amseroedd yn amrywio, yn dibynnu ar y llanw a’r amodau syrffio.

Ac os ydych wir am edrych yn broffesiynol, gallwch brynu dillad syrffio o siop Ma Simes, lle gallwch hefyd drefnu eich gwersi syrffio.

Preseli Venture

  • Traethau: Niwgwl, Porth Mawr ac Abermawr
  • Oedran ieuengaf: 9
  • Dosbarthiadau i’r teulu

Mae Preseli Venture yn ganolfan gweithgareddau awyr agored, gyda dros 20 mlynedd o brofiad, sy’n arbenigo mewn gwyliau a phenwythnosau antur.

Bydd pawb sy’n mynd i syrffio gyda Preseli Venture yn cwrdd yn y ganolfan ym Mathri, yn paratoi yn yr ystafelloedd newid yno, ac yna’n mynd â’r byrddau ar y bws mini i Niwgwl, Porth Mawr neu Abermawr, yn dibynnu ar yr amodau syrffio. Hanner diwrnod yw’r sesiynau i’r teulu, o 9yb neu 2yp. Os ydych yn aros ar un o Wyliau Antur Teuluol Preseli Venture, syrffio yw un o’r gweithgareddau sydd ar gael ac mae dwy wers wedi’u cynnwys yn y pecyn.

©Board Games Surfing
Gwers syrffio gyda Board Games Surfing

TYF Adventure

  • Traethau: Porth Mawr. Defnyddir traethau eraill weithiau, yn dibynnu ar yr amodau syrffio.
  • Oedran ieuengaf: 8
  • Dosbarthiadau i’r teulu ac oedolion

Antur yw hanfod TYF, cwmni sy’n rhoi pwyslais mawr ar ddysgu a chynaliadwyedd. Mae ganddyn nhw amrywiaeth o weithgareddau llawn adrenalin, gan gynnwys arfordiro, dringo creigiau a chaiacio.

O ran syrffio, mae TYF yn cynnig sesiynau blasu, hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn – neu hyd yn oed benwythnos o antur syrffio. I ddechreuwyr, y gwersi hanner diwrnod yw’r dewis mwyaf poblogaidd.

Gellir trefnu gwersi unrhyw adeg o’r flwyddyn. Os fyddwch chi’n trefnu sesiwn hanner diwrnod, bydd y gost o logi bwrdd syrffio am hanner diwrnod hefyd yn cael ei chynnwys yn y pris – er mwyn i chi gael ymarfer eich symudiadau!

Newsurf

  • Traethau: Niwgwl
  • Oedran ieuengaf: 8 oed, neu’n iau yng nghwmni oedolyn.
  • Dosbarthiadau cymysg. Gellir trefnu gwersi preifat i grwpiau teulu, holwch am brisiau.

Mae ysgol syrffio a siop syrffio Newsurf ar draeth Niwgwl. Yn ogystal â chynnig hyfforddiant ar gyfer pob lefel, mae cyfarpar hen a newydd ar werth, byrddau i’w llogi a lle trwsio byrddau.

Mae digonedd o le bob amser ar y ddwy filltir o dywod ac mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd yn ystod y gwyliau.

Mae cyfleusterau newid a chawodydd poeth yn y pris

Board Games Surfing

  • Traeth: Niwgwl
  • Oedran ieuengaf: 8 oed
  • Grwpiau neu wersi preifat
  • Drwy gydol y flwyddyn

Ar y ddwy filltir o draeth yn Niwgwl, mae Board Games Surfing yn cymryd amser i ddeall eich disgwyliadau ac unrhyw brofiad syrffio blaenorol sydd gennych. Peidiwch â phoeni os ydych yn newydd i syrffio!

Drwy gydol eich sesiwch, bydd hyfforddwr cwbl gymwysedig a llawn hwyl wrth law.

*Mae gan bob un o’r Ysgolion Syrffio yma hyfforddwyr cymwysedig ac maen nhw’n darparu’r holl gyfarpar y byddwch ei angen. Mae bob amser yn well trefnu lle ymlaen llaw, ond mae pob un yn dweud y byddan nhw’n gwneud eu gorau i ddarparu ar eich cyfer – hyd yn oed ar y funud olaf! Cysylltwch â nhw am ragor o fanylion neu i ofyn unrhyw gwestiynau.

Rydych wedi meistroli’r gamp, yn gallu sefyll ar y bwrdd ac yn awchu am ragor, felly beth nesaf? Dyma’n canllaw i draethau syrffio Sir Benfro.

Ydych chi’n chwilio am rywbeth ar dir sych? Beicio efallai? Dyma’n syniadau ar gyfer beicio i’r teulu.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi