Yr Heol Aur

Traffordd Neolithig?

Yr Heol Aur

Llwybr ar hyd asgwrn cefn Sir Benfro

Yr Heol Aur, neu asgwrn cefn Bryniau’r Preseli, yw un o lwybrau ucheldir gorau Cymru.

Mae’r llwybr bryniog hwn, gyda’i olygfeydd cyn belled ag Iwerddon, de Cymru ac ar hyd bae mawreddog Ceredigion tuag at Eryri, yn cysylltu henebion a chladdfeydd, carneddau a thyrrau creigiog.

Ei uchafbwyntiau yw dwy o’r chwareli y credir bod cerrig wedi’u cludo oddi yno i Gôr y Cewri 4000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae archeolegwyr yn dal i ddadlau pwysigrwydd y ffordd hon a allai fod yn dyddio’n ôl 5,000 o flynyddoedd i’r Oes Neolithig. A oedd hon yn un o’r cannoedd o gefnffyrdd tir uchel yr arferid eu defnyddio er mwyn osgoi’r coedwigoedd trwchus a’r tir is anodd a pheryglus? Neu a oedd Yr Heol Aur lawer pwysicach na hynny, ac yn rhan o briffordd fasnachu ar gyfer cludo aur a gloddiwyd ym mynyddoedd Wicklow yn Iwerddon cyn belled â Wessex yn ne-ddwyrain Lloegr?

Y llwybr

Mae’r llwybr saith milltir o un pen i’r llall yn dechrau ym Mwlch Gwynt, nepell o Foel Eryr. (Rhowch bedair awr i’w gerdded un ffordd. Mae Bwlch Gwynt ar y B4329, tua dwy filltir i’r gogledd o’r groesffordd â’r B4313. Cilfan barcio yn Llainbanal yw’r diwedd, filltir i’r gorllewin o Grymych).

Mae Foel Eryr yn fan cychwyn dramatig yn wir, gyda charnedd gladdu o’r Oes Efydd ar ei gopa. Er gwaetha’i enw, ni welir yr aderyn mawreddog hwnnw yma rhagor, ond mae boncathod a barcutiaid yn hofran uwchben a merlod gwyllt yn pori’r glaswelltir garw yma.

Yn syth wedi i’r llwybr fynd heibio Coedwig Pantmaenog (i’r de), mae’n werth dilyn y llwybr troed am ychydig i fan uchaf y Preseli, sef Foel Cwmcerwyn sy’n 1,759 o droedfeddi o uchder.

Ceir sôn yn y Mabinogi am Frenin Arthur a’i farchogion yn ymladd brwydr erchyll yn erbyn y Twrch Trwyth yn y cwm glaswelltog islaw Foel Cwmcerwyn ac yn ôl y sôn, beddau rhai o farchogion Arthur a laddwyd yn y frwydr honno yw’r llinell o greigiau yng Ngherrig Marchogion.

Mae twr creigiog Carn Bica, gyda’i graig fawr siâp losinen, uwchlaw Bedd Arthur, cylch o gerrig siâp llygad ac un o’r llu o leoedd a gofnodwyd fel bedd y Brenin Arthur. Mae’n ddigon posibl bod tomen gladdu, sydd wedi erydu ers amser maith, wedi bod o fewn y cylch cerrig ond, mewn gwirionedd, mae’n debygol bod yr heneb hon yn dyddio’n ôl i’r Oes Neolithig, ymhell cyn oes dybiedig y Brenin Arthur, rhwng 400 a 600 OC.

Wrth gerdded i’r dwyrain, fe welwch hefyd nodweddion hynafol nodedig (naturiol ac o waith dyn), fel y garnedd gladdu o’r Oes Efydd yn Foel Feddau, un o’r gorau yn y Preseli. Tua’r gogledd mae golygfa o’r arfordir a safle Castell Henllys, ailgread uchelgeisiol o gaer Oes Haearn.

©APCAP
Castell Henllys

Yn agos i ddiwedd y llwybr mae caer Oes Haearn anhygoel Foel Drygarn (tua 350 CC) gyda’i rhagfuriau dwbl a’i ffosydd. 1200 troedfedd uwchlaw’r môr, ar safle tair carnedd gladdu Oes Efydd. Edrychwch am garreg wastad fawr, Bwrdd y Brenin. Ond fyddwch chi ddim yn dod o hyd i’r pot o aur sydd, yn ôl y sôn, wedi’i gladdu yno!

Ychydig islaw mae Carn Meini, gyda’i chraig las wedi’i herydu’n siapau danheddog. Am flynyddoedd lawer, credid mai oddi yma y daeth y cerrig gleision sydd yng nghylch mewnol Côr y Cewri. Yna, yn 2013, cyhoeddwyd ymchwil newydd yn awgrymu y gallai’r cerrig mewn gwirionedd, fod wedi dod o fan arall yn y Preseli, sef Carn Goediog a Chraig Rhosyfelin gerllaw.

Darganfyddiad diddorol arall a wnaethpwyd gan wyddonwyr yn 2013 oedd fod cynifer ag un o bob pump o’r cerrig sydd ar wasgar ledled y mynyddoedd hyn, o’u tapio â cherrig morthwylio llaw, bychain, yn gwneud synau metelig tebyg i glychau, gongiau a drymiau tun. Mae cerrig gleision Côr y Cewri’n gwneud yr un sŵn. Mae hyn yn ychwanegu’r posibilrwydd iddynt gael eu dewis am fod ganddynt ryw fath o werth cerddorol defodol.

Os gerddwch chi o’r dwyrain i’r gorllewin (neu fynd mewn car), mae Tafarn Sinc ym mhentref Rosebush gerllaw yn ddiwedd ardderchog i’ch taith. Mae gan y dafarn stof llosgi coed, a’i chwrw’i hun, Cwrw Sinc. Ar un adeg, Rosebush oedd canolbwynt diwydiant llechi ffyniannus y Preseli.