Y tu ôl i’r llenni
Darganfyddwch Sir Benfro o dan harddwch y radar
Mae’n hawdd iawn i Sir Benfro ddenu sylw ar Instagram gyda lluniau o’i golygfeydd mwyaf cyfarwydd, ond eleni mae hi’n Flwyddyn Darganfod Cymru.
Mae’n ddyletswydd arnom felly, i’ch cyflwyno chi i ambell un o’r trysorau cudd sydd wedi llwyddo i osgoi’r lensys hyd yma, mannau sydd heb hawlio’r un sylw â’u cymdogion adnabyddus.
Felly, dyma i chi gip y tu ôl i’r llenni, ar y rhai na chafodd lwyfan – y rhai a gafodd gam, efallai, er gwaethaf eu teilyngdod…
Cors a Thwyni Freshwater East
Y tu ôl i draeth Freshwater East
Os fentrwch chi ychydig y tu hwnt i draeth poblogaidd Freshwater East, buan iawn y dewch chi i’r unig Warchodfa Natur Leol sydd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: Twyni Freshwater East
Yma mae drysfa o lwybrau drwy’r twyni tywod, lle mae merlod mynydd yn aml yn pori’r glaswelltir, y tegeirianau’n frith yn y gwanwyn, a lle cewch chi ambell olygfa hyfryd dros y môr.
Heibio i’r maes parcio, yr ochr draw i’r ffordd, mae cors y warchodfa. Mae’r llwybr pren, hir sy’n arwain trwy’r cyrs yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio (ond ddim cŵn), ac yn arwain at guddfan adar anarferol, ac ymhellach.
Mae llyn hefyd, gyda llwyfannau chwilota, felly dewch â’ch rhwyd!
Gallwch barcio ym maes parcio traeth Freshwater East (Parc Cenedlaethol)
Coed Ystangbwll
Y tu ôl i Byllau Lili Bosherston
Mae Pyllau Lili Bosherston, sy’n rhan o ystâd hanesyddol fawreddog Ystangbwll, ymysg atyniadau enwocaf Sir Benfro.
Ond wrth ymweld â’r llynnoedd byddwch chi’n colli cyfle euraidd os na fentrwch chi i’r coetiroedd gerllaw – yn enwedig yn y gwanwyn.
Mae carped gwyn o arlleg gwyllt yng Nghoed Lodge Park ar ddechrau’r Gwanwyn, a chlychau’r gog yn garped trwy Goedydd Castle Dock os ddewch chi ar yr adeg iawn ym mis Ebrill.
Ac os byddwch chi awydd ychydig o antur, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rheoli sawl llwybr beicio mynydd gwych trwy Goedydd Castle Dock a Cheriton Bottom.
Gallwch barcio ym maes parcio Cwrt Stagbwll (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Pyllau Melin Penfro
Y tu ôl i Gastell Penfro
Gadewch olygfeydd dramatig Castell Penfro er mwyn crwydro rhan orllewinol pyllau melin y dref.
Mae digonedd o elyrch a hwyaid yma, ac ystlumod yn byw yn Nhŵr Barnard, sy’n dyddio o’r 13 Ganrif, gerllaw. Bydd mulfrain a chrehyrod bach i’w gweld hefyd o bryd i’w gilydd, ac os fyddwch chi’n dawel ac yn lwcus iawn, efallai gwelwch chi ddyfrgi!
Mae’r llwybr, sy’n rhan o Lwybr Tref Penfro, yn dilyn muriau gogleddol y dref. Mae’n wastad ar y cyfan, ac yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio (a bydd plant wrth eu boddau ar sgwteri). Taith fer yw hi, ond mae modd ei hymestyn i fod oddeutu 3 milltir trwy ddilyn llwybr y dref ar ei hyd.
Wiseman’s Bridge at Dwneli Saundersfoot
Y tu ôl i draeth Wiseman’s Bridge
Nepell o draeth bwced a rhaw Wiseman’s Bridge cewch gyfle i gerdded neu feicio trwy ychydig bach o hanes.
Yma, mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd trwy dri thwnnel a arferai fod yn rhan o’r rheilffordd gul a fu’n cludo glo o’r pyllau lleol i harbwr Saundersfoot.
Mae’r twneli’n eithaf byr (llai na 100m) ac mae rhywfaint o olau ynddynt, felly maent yn ddigon tywyll i fod yn gyffrous i blant bychain ond heb fod yn ddigon tywyll i’w dychryn!
Mae’r ‘dramffordd’ hon hefyd yn arwain oddi wrth y môr trwy ddyffryn sy’n llawn haeddu ei enw, Pleasant Valley, cyn dirwyn tua’i derfyn yng Ngwaith Haearn Stepaside. Golyga hyn fod llwybr beicio diogel ac addas i’r teulu yr holl ffordd o Saundersfoot, trwy Wiseman’s Bridge, i Stepaside.
Gallwch barcio yn Saundersfoot, Coppet Hall, neu Wiseman’s Bridge.
Fferm Gupton Farm a Chors Castell Martin
Y tu ôl i draeth Freshwater West
Mewn dyffryn tawel yng nghysgod traeth tywodlyd, gwyllt Freshwater West, mae hafan fach dawel i’r rhai sy’n caru natur.
Felly pan fyddwch chi wedi cael llond bol ar syrffio neu godi cestyll tywod, croeswch y ffordd ac anelwch tuag at y llwybr blodau a bywyd gwyllt o gwmpas Cors Castell Martin a Fferm Gupton.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rheoli’r llwybr cylchol 2 filltir o hyd, ac mae’n daith hamddenol trwy dwyni, corsydd, a gweunydd. Ac er nad oes unrhyw atyniadau ysgubol i’w cael yma, os ydych chi’n chwilio am ennyd fach o dawelwch rhag hynt a helynt y byd, neu fan i grwydro trwy flodau gwyllt a gwrando ar yr adar mân yn canu, does unman gwell.
Gallwch barcio ym maes parcio traeth Freshwater West (neu defnyddiwch fws ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol).
Twyni Penalun
Y tu ôl i draeth y de, Dinbych-y-pysgod
O’r traeth bach o dywod a cherrig ym Mhenalun, gallwch weld golygfa gyfarwydd promenâd Dinbych-y-pysgod ac Ynys Catrin yn y pellter.
Dyma le perffaith i chwilio am gregyn neu i flino’r ci! (Noder: caiff cŵn eu gwahardd o Draeth Deheuol Dinbych-y-pysgod rhwng 1 Mai a 30 Medi).
Mae’r traeth yma’n cwrdd â thraeth deheuol Dinbych-y-pysgod, ond mae’n dawelach. Gallwch gerdded yr holl ffordd i’r dref, neu, o fynd y ffordd arall, gallwch ddilyn Llwybr yr Arfordir tuag at Lydstep.
Y ffordd orau o gyrraedd y traeth yw cerdded o Orsaf Penalun. Bydd y llwybr byr yn eich arwain trwy’r cwrs golff a’r twyni – ond gwyliwch y peli!
Gwell edrych ar amseroedd y llanw hefyd os ydych chi’n bwriadu mynd i’r traeth.
Gallwch barcio yng Ngorsaf Penalun.