Ian Smith a'i deulu yn ymweld â Dinbych-y-pysgod
Sir Benfro: ymweliad cyntaf
Daeth Ian Smith i ymweld â Sir Benfro am y tro cyntaf, a dyma oedd ei farn am ei brofiad cyntaf o’n sir arbennig.
“Rwyf newydd ddychwelyd o wythnos yn Ninbych-y-pysgod – fy ymweliad cyntaf erioed. Y cwestiwn rwyf wedi bod yn holi fy hun byth ers hynny yw pam y cymerodd 55 mlynedd i fi dreulio amser yn y dref ysblennydd hon?
Efallai y cefais fy atal gan enw gwael Cymru am fod yn wlad wlyb; ond pam? Yn feteorolegol, mae Dinbych-y-pysgod fwy neu lai drws nesaf i Ddyfnaint!
Roeddem yn griw o 5; 2 oedolyn a 3 o blant yn eu harddegau (14, 16 a 17 oed) ac, yn ddi-os, cawsom un o’n gwyliau gorau erioed. Roedd yr haul yn tywynnu trwy gydol yr wythnos, ac roedd hynny’n help, wrth gwrs, ond hyd yn oed heb hynny, mae gan Ddinbych-y-pysgod a Sir Benfro gymaint i’w gynnig. Cawsom groeso cynnes ym mhobman, ac ni chawsom ein twyllo o gwbl mewn unrhyw ffordd – roedd prisiau popeth, ym mhobman, yn rhesymol. Roedd yr arddangosfeydd blodau’n wirioneddol drawiadol, yn enwedig y tu allan i’r tafarndai, ac roedd mwy o orielau celf nag arcêds.
Gwyliais yr achubwyr bywyd wrth eu gwaith; roedden nhw’n wych, yn cadw golwg ac yn patrolio’n gyson am bobl a allai fod yn cael trafferth yn y dŵr; rwy’n nofiwr cryf, ond roedd yn braf cael tawelwch meddwl bod rhywun yn gofalu amdanom ni’r ymwelwyr. Wrth nofio drwy’r twnnel naturiol o dan Ynys Catrin, gwelsom adar yn nythu uwch ein pennau; doedden ni’n methu cofnodi’r peth gyda chamerâu ond bydd yn aros yn y cof am amser hir. Roedd y traethau’n lân iawn, a’r dŵr hefyd ac, yn ôl pob golwg, roedd yn ddiogel iawn i blant bach. Roedd digon o le i bawb ar y traethau, i chwarae gemau, cerdded ac, wrth gwrs, adeiladu’r cestyll tywod hollbwysig.
Roedd y golygfeydd dros yr arfordir yn fendigedig; roedd y teithiau cwch o gwmpas yr ynysoedd yn wych – yn llawn gwybodaeth ac yn llawn hwyl (yn enwedig y cwch cyflym). Aethom i draethau eraill fel Saundersfoot a bae godidog Barafundle (yr unig beth sydd wedi’i greu gan ddyn yno yw’r pethau y mae’r ymwelwyr yn dod gyda nhw o ddydd i ddydd).
Roedd y wawr am 5:30 dros Fae Caerfyrddin fore Sadwrn yn rheswm gwerth chweil i amharu ar ein cwsg – amhrisiadwy ond yn rhad ac am ddim. Wrth i ni eistedd ar y traeth ar ddiwedd ein gwyliau, roedd yn teimlo fel petaen ni wedi bod dramor; roedd yn teimlo mor wahanol, ac mor hudol.
Diolch Dinbych-y-pysgod am roi gwyliau teulu hyfryd i ni, ac atgofion melys iawn. Peidiwch â newid unrhyw beth.
A’r peth yw; rwy’n ddyn anodd iawn i’w blesio!
Ian Smith.”
Peidiwch ag aros mor hir ag Ian i ddarganfod Sir Benfro.