Yn syth o’r ddaear

Cynnyrch gorau Sir Benfro

Oddi wrth y tyfwyr eu hunain

Cynnyrch lleol Sir Benfro

Mae prynu cynnyrch lleol yn syth gan y cynhyrchwyr eu hunain yn rhan o brofiad y gwyliau modern, ond ble mae dechrau?

Cynhelir marchnadoedd ffermwyr neu gynnyrch, sy’n gwerthu dewis gwych o fwyd a diod leol, dan do ac yn yr awyr agored ledled y sir.

Fe gewch chi gigoedd a dofednod wedi’u magu gartref, pysgod a chrancod wedi’u paratoi, caws a mêl lleol, bara arbenigol, cwrw crefft, ffrwythau a llysiau tymhorol yn ogystal â llond gwlad o nwyddau a chacennau, cyffeithiau, siytni a chynnyrch figan, llysieuol ac organig o’r ansawdd gorau. Bydd y dewis yn amrywio o’r naill farchnad i’r llall.

Wrth i chi siopa, chwiliwch am Nod Cynnyrch Sir Benfro. Arwydd yw hwn fod y cynnyrch wedi’i dyfu neu ei gynhyrchu yn Sir Benfro.

Ac nid cynnyrch yn unig; os welwch chi’r nod mewn sefydliad lletygarwch, mae’n dangos bod cynnyrch lleol yn cael ei ddefnyddio ar y fwydlen. Mae siopau sy’n dangos y Nod Cynnyrch yn gwerthu cynnyrch/crefftau lleol.

Er mwyn dod o hyd i gynnyrch Sir Benfro go iawn, cymrwch olwg ar y rhestr gynhwysfawr hon o aelodau Nod Cynnyrch Sir Benfro.

  • Marchnadoedd Ffermwyr Sir Benfro

Mewn marchnadoedd ffermwyr gallwch brynu’n syth oddi wrth y cynhyrchwyr. Fe fyddan nhw’n falch o sôn wrthych am y cynhyrchion sydd ar werth. Yn wir, mae’n ffordd wych o ailgysylltu â’r gymuned ffermio ac, ar yr un pryd, hyrwyddo cymdeithas fwy cynaliadwy a lleihau’r milltiroedd bwyd.

Yn Hwlffordd, prif dref y sir, cynhelir marchnad ffermwyr ardderchog bob dydd Gwener yn yr ardal siopa brydferth ar lannau’r afon. Mae’r holl gynnyrch sydd ar werth wedi’i dyfu, ei fagu, ei bobi, ei fragu, ei ddal, ei biclo, ei fygu neu ei brosesu gan y cynhyrchwr. Daw’r holl gynhyrchwyr yno o ardal leol bendant sef, yn achos marchnad ffermwyr Hwlffordd, o fewn 50 milltir.

Cynhelir marchnad ffermwyr Abergwaun yn neuadd y dref bob bore Sadwrn.

  • Marchnadoedd cynnyrch eraill

Cynhelir nifer o farchnadoedd cynnyrch sy’n gwerthu llond gwlad o gynnyrch bwyd a chrefftau – yn Nhrefdraeth bob dydd Llun, ar ddydd Mawrth cynhelir marchnad cynhyrchwyr lleol Llandudoch, enillydd gwobr Marchnad Fwyd Orau y BBC yn 2016 ar ddydd Mawrth, a chynhelir marchnad yn Nhyddewi bob dydd Iau.

Ceir marchnadoedd cymysg tymhorol hefyd yn Ninbych-y-pysgod bob dydd Mercher drwy gydol yr haf.

I gael gwir flas ar yr ardal, does dim gwell ffordd o brofi cynnyrch yr arfordir a’r ffermydd mewndirol na siopa am eich swper neu bicnic yn y farchnad agosaf.

  • Gwyliau Bwyd

Cadwch lygad am un o’n gwyliau bwyd poblogaidd, gyda’u digonedd o gynnyrch lleol, arddangosiadau, cerddoriaeth ac awyrgylch bywiog. Dyma un o’r ffyrdd gorau o ddarganfod cynnyrch newydd a chael gwir flas ar fwyd, treftadaeth a diwylliant Sir Benfro.

The Really Wild Food Festival

Cynhelir y Really Wild Food Festival yn Oriel y Parc, Tyddewi ym mis Mai. Mae hon yn ŵyl ddifyr, anffurfiol a chyfeillgar lle cewch ddysgu popeth am chwilota a bwyd yn y gwyllt ar y stondinau ac yn y llu o weithgareddau.

Sioe Amaethyddol Sir Benfro

Ym mis Awst ewch i sioe Amaethyddol Sir Benfro ar faes sioe Llwynhelyg, lle cewch weld ffermio a chefn gwlad ar ei gorau yn ogystal â’r neuadd fwyd boblogaidd.

Gŵyl Fwyd Arberth

Cynhelir Gŵyl Fwyd Arberth bob blwyddyn tua diwedd mis Medi. Dyma ŵyl i bobl sydd o ddiffrif am eu bwyd, mewn tref sydd o ddifrif am ei bwyd, gyda danteithion, adloniant a’r bwyd stryd mwyaf blasus i’w fwynhau.

Marchnadoedd Nadolig

Yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr cynhelir nifer o farchnadoedd Nadolig mewn amryw o leoedd, gan gynnwys Castell Pictwn a Phenfro, Maenordy Scolton, Saundersfoot ac Oriel y Parc yn Nhyddewi. Cewch syniadau am anrhegion, bwyd a chrefftau yn y rhain i gyd, yn ogystal â charolau a gwin poeth wrth gwrs.