Awdur a darlunydd gwobredig
Dyma Jackie Morris
Mae llyfrau gwobredig Jackie Morris wedi’u cyhoeddi mewn 14 o wahanol ieithoedd.
Cawsom sgwrs gyda hi’n ddiweddar a gofyn iddi pam bod Sir Benfro mor bwysig iddi.
Croeso Sir Benfro (CSB): Rydych wedi sôn o’r blaen eich bod wedi dod i Sir Benfro unwaith ac wedi methu’n lân â gadael – beth sydd wedi’ch cadw chi yma?
Jackie Morris (JM): Symudais i Sir Benfro 22 o flynyddoedd yn ôl. Ddes i yma am benwythnos. Cyrhaeddais i yn y tywyllwch ar ôl siwrnai hir mewn trên a thacsi, a deffro i awyr mor las a chlir. Cerddais i lawr y stryd i Sgwâr y Groes, yna sefais i, ac edrych. Roedd ydfrain yn sgrechian uwch fy mhen. Roedd eglwys gadeiriol yn y pant, ac yna caeau a môr ac ynysoedd bychain, a’r eiliad honno, fe syrthiais mewn cariad.
Hiraeth yw’r gair. Y teimlad ges i wrth sefyll dan haul Cymru oedd mai dyma ddiwedd ar fy hiraeth. Roeddwn i wedi cyrraedd adre.
Felly fe arhosais i. Es i siopa ar y dydd Llun a phrynu tŷ. Wel, doedd pethau ddim mor hawdd â hynny, ond bron â bod.
CSB: Pan symudoch chi, a effeithiodd hynny ar eich gwaith ar unwaith? Oeddech chi’n ymwybodol o’r effaith, neu a ddigwyddodd fesul dipyn heb i chi sylwi arno i ddechrau?
JM: Cyn hynny, roeddwn yn byw yng Nghaerfaddon ac roedd fy mhaentiadau’n adlewyrchu’r lle hwnnw. Adeiladau tal, cul, caeedig, cerrig melyn meddal. Yn Sir Benfro, dechreuodd siâp y pentir agor ac ymestyn drwy fy ngwaith.
Bwthyn bach carreg oedd y tŷ brynais i ar y pryd, ac yno rwy’n byw o hyd. Y tu ôl i’r bwthyn mae bryn gwyllt lle rwy’n cerdded gyda chathod a chŵn ac yn gwylio creaduriaid gwyllt, cadnoid, moch daear, cigfrain, bwncathod, hebogiaid tramor a brain coesgoch. Mae adar yn tynnu fy sylw oddi ar fy ngwaith. Ar hyn o bryd, mae’r lle’n llawn o flodau gwynion y ddraenen ddu a heidiau bychain o nicos a ji-bincod llachar. Mae’r rhain i gyd yn ymddangos yn fy mhaentiadau ar ryw adeg neu’i gilydd, a’r morloi sy’n magu ar y traethau rhyw filltir neu ddwy o’r tŷ, yng nghanol adfeilion hen bentref, yn creu stori serch yn fy meddwl.
CSB: Dywedodd Jan Morris unwaith fod “yr iaith Gymraeg, os ydych yn ei siarad ai peidio, ac os ydych yn ei charu neu’i chasáu, fel rhyw swyn neu gyfaredd o’r gorffennol, yn treiglo dros y wlad i lawr y canrifoedd, gan effeithio’n gynnil ar deimladrwydd y genedl, hyd yn oed pan fydd ei hystyr yn angof.” Mae eich llyfrau chi’n arbennig o hudolus a swynol – er eich bod yn ysgrifennu yn Saesneg, a oes gennych ymlyniad at yr iaith Gymraeg o gwbl?
JM: Dieithryn ydw i yma, estron. Ac eto rwyf gartref. O’m cwmpas i, mae pobl yn siarad iaith yr wyf wedi dechrau dod i’w deall rywfaint ar ôl 22 mlynedd. Mae’n iaith gerddorol. Yn iaith beirdd. Tyfodd fy mhlant i fyny’n siarad Cymraeg. Yn anffodus, mae rhy ychydig o’m llyfrau wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg.
CSB: Pe byddai’n rhaid i chi argymell lle arbennig y dylai pobl ymweld ag ef pan ar wyliau yma, ble fyddai hwnnw?
JM: Fues ar fy ngwyliau i westy Druidstone. Mae tua 15 – 20 munud oddi yma ac, fel mae pobl yn ei ddweud, “fel cartref oddi cartref”. Heblaw ei fod yn fwy na hynny. Wrth i’r fan nesáu, rwy’n teimlo fy ngofidnau a phwysau gwaith yn llithro oddi ar fy ysgwyddau. Mae’r gwesty’n teimlo mor anhygoel o hamddenol, ond a dweud y gwir mae fel alarch, yn brydferth ar yr wyneb, ond mae’r staff yn gweithio’n galed ac yn gwneud popeth er mwyn gwneud i’r gwesteion deimlo’n gyffyrddus. Eistedd ar y teras gyda gwydraid o win yn gwylio’r machlud. Gwefreiddiol. Ac un tro roedd hyd yn oed morfilod asgellog yn y bae. Rwy’n gallu ysgrifennu yn Druidstone, ar y clogwyni, ar y traeth hyfryd. Mae ganddyn nhw gathod.
O leiaf unwaith bob blwyddyn rwy’n mynd ar daith cwch o amgylch Ynys Dewi, ynys hudolus. Rydw i wrth fy modd yn edrych yn ôl tuag at y tir oddi ar y dŵr, ac yn cael cipolwg ar fywyd o dan y don. Mae rhywbeth hyfryd am weld morloi ymhell allan yn y môr, dilyn haid o ddolffiniaid, gwylio huganod yn pysgota.
CSB: Rydych yn gweithio gyda llawer o fusnesau annibynnol yn Sir Benfro, ond Melin Wlân Solfach yn fwyaf arbennig, busnes arall sy’n creu darnau Cymreig hardd. Yn eich barn chi, pa mor bwysig yw hyrwyddo a chefnogi busnesau lleol sy’n deall natur cynhenid leol eich gwaith, yn ogystal â gwerthu ar lwyfannau mwy o faint?
JM: Melin fechan yn Middlemill yw Melin Wlân Solfach, sy’n gwehyddu rygiau bendigedig ym mhatrwm Sir Benfro. Mae’r cwm yn hardd, a’r afon fyrlymus yn gartref i ddyfrgwn a chrehyrod. Dros y blynyddoedd mae cyfeillgarwch a pherthynas waith unigryw wedi tyfu rhyngddom gan fod y felin bellach yn cynnal lansiadau pob un o’m llyfrau a phobl yn teithio o bell i ymuno â ni. Ac mae’r felin yn gwerthu fy llyfrau i gyd, wedi’u llofnodi, ac yn eu hanfon i bedwar ban byd.
Byddaf bob amser yn dychwelyd i’r gefnen greigiog hon sy’n ymestyn o Benmaen Dewi. Pan fyddwch yn sefyll ar y bryn uwchben fy nhŷ i gallwch weld Iwerddon ar ddiwrnod clir. Dyma ble rwy’n mynd i ysgrifennu. Yn agos at y cen gwyrdd ac aur ar y cerrig, y coed drain wedi’u plygu gan y gwynt, yr eithin a’r grug. Edrychwch ymhellach a gallwch weld siâp y ddaear. Mae hi fel byw ar fap. Mae’n dywyll yn y nos. Gallwch weld y sêr i gyd yn awyr y nos a gallwch glywed y tawelwch. Dyna ddau o’r holl bethau rwy’n eu caru am Sir Benfro.”
Darllenwch ragor am Jackie Morris, a ble y gallwch weld ei gwaith.