Dyma Ian Meopham

Un o barcmyn angerddol y Parc Cenedlaethol

Sut beth yw bod yn barcmon yn y Parc Cenedlaethol?

Dyma Ian Meopham: Parcmon yn y Parc Cenedlaethol

Mae goleudy Pen-caer mewn pelydryn o olau llachar y gwanwyn a’r gwynt yn bwrw’r pentir.

Ar lwybr yr arfordir, mae Ian Meopham, un o barcmyn y Parc Cenedlaethol, yn sgrialu i lawr i’r traeth agored islaw’r bont.

Yn llithrig o wymon, mae’r cerrig mân yma’n gartref i’r morloi a’u lloi fel arfer, ond mae’r gorllanw isel wedi’u gadael yn y golwg.

©Thomas Bown
Pen-caer

Mae Ian wedi bod yn gweithio i’r Parc Cenedlaethol bron yn ddi-dor ers iddo fod yn 19 oed. Ac yntau wedi’i swyno’n llwyr gan yr ardal ers ei ymweliad cyntaf, gadawodd gyrion Llundain ac ymgartrefu ar arfordir y gorllewin gwyllt.

Dysgu’r ffyrdd gorau o warchod yr amgylchedd a bywyd gwyllt yn gynaliadwy yw un o brif flaenoriaethau’r Parc, ac mae hynny’n eithriadol o bwysig i Ian. Mae cynnwys pobl yng ngwaith y parc yn un ffordd o sicrhau ein bod yn deall ac yn gwerthfawrogi ei arwyddocâd.

Ychydig flynyddoedd yn ôl, gofynnodd y Parc i ymwelwyr gysylltu â nhw neu nodi mewn llyfr log pan fyddent yn gweld dyfrgwn. Cafwyd ymateb anhygoel, a hynny i gryn raddau am fod y bobl wrth eu bodd gyda’r ymgyrch.

Heb bobl, fyddai’r parc ddim yn bodoli, a chyflwyno’r gymuned i’w fannau gwyllt a’u galluogi i wneud y gorau o harddwch garw’r Parc Cenedlaethol yw prif ddiben swydd Ian.

Rydym yn syllu allan tua’r môr, ar y clogwyni enwog y byddwn yn eu crwydro mewn caiac, gyda rhaffau dringo a charabiners, a’r man ble byddwn o dro i dro yn dringo i lawr y creigiau ac yn nofio. Ac er eu bod mor gyfarwydd i ni, mae’r creigiau hefyd yn gartref i fulfrain a gwylogod, i adar drycin y graig a morloi, a rhaid i Ian sicrhau iechyd a hapusrwydd pob ymwelydd, boed ar ar adain, bawen neu droed.

Goleudy Pen-caer

Ac yntau allan ar yr arfordir am ddyddiau, fydd Ian yn teimlo’n unig o dro i dro?

Byth. Ddim ac yntau â gwirfoddolwyr, ymwelwyr, ambell i ddyfrgi a hyd yn oed goleudy yn gwmni iddo.

Pa bynnag ran o lwybr yr arfordir y byddwch chi’n ei gerdded, rydych yn siwr o ddod ar draws y dirwedd, y bobl a’r bywyd gwyllt sy’n gymaint o ysbrydoliaeth i Ian.

Darllenwch ragor am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’i 186 milltir o Llwybr Arfordir Sir Benfro byd-enwog.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi