Dyma Bessie Davies

Tafarnwraig chwedlonol Cwm Gwaun

Preswylydd enwocaf Cwm Gwaun

Dyma Bessie Davies

Cwm hir a throellog gyda choetir ac afon fyrlymus yw Cwm Gwaun.

Mae llond dyrnaid o dai ar ochrau serth y cwm, ac i lawr ffordd fach ddi-nod, mae’r Dyffryn Arms. Tafarn o’r tu allan, ond y tu mewn mae’n gartref i’r dafarnwraig enwog, Bessie, sydd wedi bod yn gwerthu cwrw Bass gorau sir Benfro trwy ddrws bach yn ei hystafell ffrynt ers iddi fod yn ugain oed. Yn enwog ymhlith ymwelwyr a thrigolion lleol fel ei gilydd, mae’r dafarn yn ei theulu ers 1840.

Pan gyrhaeddon ni, roedd yr ystafell yn llawn bwrlwm, ddiwrnod ar ôl yr Hen Galan, hen draddodiad y calendr Iwlaidd a ddethlir yn y cwm hynod hwn ar Ionawr 13eg.

Ymhell yn ei wythdegau, mae’n dal i gynnau’r tân a chymryd diddordeb ym mhawb o’i chwmpas. Pan fyddwn ni’n gofyn am ddiod, mae ei mab-yng-nghyfraith yn ei weini drwy’r drws bach, o jwg sydd wedi’i lenwi o’r unig gasgen. Meddai Bessie, ‘Mae gen i gwrw hyfryd yma, cwrw go iawn. Ddim fel y tafarnau eraill – swigod yw’r rhan fwyaf o’u cwrw nhw.’

Mae’r cwrw fel ambr, ddim yn oer fel rhew fel y cwrw yr ydym wedi arfer ei gael, ond yn torri syched, heb fawr o swigod, os o gwbl. Yn chwerw-felys ac yn bleser pur i’w yfed.

Tafarn Bessie neu’r Dyffryn Arms, Pontfaen

‘Mae Bessie’n mynd i wneud cawl i ni fory. Rydw i newydd ddod â swêds iddi a ma fe wedi dod â chennin!’ meddai un o’r trigolion lleol gyda gwên, wrth fwynhau ei beint o gwrw claear.

Mae’n rhaid bod dangos ein gwerthfawrogiad o Bessie a’r ffordd a fu yn draddodiad, gan ein bod ni hyd yn oed wedi dod ag ychydig o goed ar gyfer ei thân bach, a byddai fy rhieni’n arfer dod â mefus ffres o’r ffarm pan fydden nhw’n dod yma ryw 20 mlynedd yn ôl. Mae’r waliau’n frith o nodiadau o bedwar ban byd – gan ymwelwyr ffyddlon o bob cwr.

Efallai nad yw’r Dyffryn Arms at ddant pawb, dydy’r papur wal ddim wedi newid ers cyn cof, ac mae’r gwydrau’n cael eu golchi a’u sychu â llaw, nid peiriant, ond mae’r croeso mor gynnes ag erioed. Mae tân ar yr aelwyd a stori i’w chlywed bob amser. A dyma’r cwrw gorau yng Nghymru, wir i chi.

Os fyddwch chi’n treulio 48 awr yn Abergwaun neu’n crwydro Cwm Gwaun rhaid i chi fynd i’r Dyffryn Arms, neu Dafarn Bessie, am gân a chlonc.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi